Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Fargen Newydd

Rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd, gan gynnwys rhaglen 'Y Fargen Newydd Hyblyg'. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig nifer o raglenni’r Fargen Newydd i helpu pobl ddi-waith, yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir, pobl ag anableddau ac unrhyw un sydd angen help ychwanegol i ddod o hyd i waith.

Y Fargen Newydd

Nod y Fargen Newydd yw eich helpu i ddod o hyd i swydd os ydych yn ddi-waith. Cewch y cyfle i hyfforddi, dysgu a gwneud profiad gwaith er mwyn i chi:

  • dod yn fwy hyderus
  • meithrin sgiliau newydd
  • bod yn fwy gwerthfawr i bobl sy’n chwilio am staff
  • dod o hyd i waith a’i gadw

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd. Os bydd angen i chi gymryd rhan a’ch bod yn gwrthod, gallech golli budd-daliadau. Dilynwch y ddolen ‘Pryd mae’n rhai i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd’ am ragor wybodaeth.

O fis Hydref 2009, bydd rhaglen bresennol y Fargen Newydd yn cael ei disodli gan raglen wahanol o’r enw 'Y Fargen Newydd Hyblyg' yn yr ardaloedd canlynol:

 Cymru

  • Cymru gyfan

Lloegr

  • Canol Llundain, Lambeth, Southwark a Wandsworth
  • Dyfnaint a Chernyw
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Manceinion Fwyaf
  • Caint, Surrey a Sussex
  • Norfolk, Swydd Gaergrawnt a Suffolk
  • Gogledd, Dwyrain a De Swydd Efrog a’r Humber
  • Dyffryn Tees
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr

Yr Alban

  • Swydd Aeron, Dumfries, Galloway ac Inverclyde
  • Caeredin, Lleuddiniawn a’r Gororau
  • Swydd Lanark a Dwyrain Swydd Dunbarton

Dilynwch y ddolen 'Y Fargen Newydd Hyblyg' i gael rhagor o wybodaeth.

Mae rhai o raglenni’r Fargen Newydd yn wirfoddol a, cyn belled â’ch bod yn gymwys, gallwch benderfynu cymryd rhan neu beidio. Gallwch gael manylion am bob rhaglen drwy ddefnyddio’r ddolenni isod.

Gwneud i waith dalu

Un o nodau’r Fargen Newydd a’r Fargen Newydd Hyblyg yw sicrhau eich bod yn well eich byd mewn gwaith nag y byddech ar fudd-daliadau. Bydd eich ymgynghorydd personol yn gallu eich helpu i weithio allan pa gyflog sydd ei angen arnoch o swydd heb i chi golli allan.

Sut y bydd gwaith yn effeithio ar fy mudd-dal?

Os dewch o hyd i waith drwy’r Fargen Newydd neu’r Fargen Newydd Hyblyg, mae rhai budd-daliadau y gallwch barhau i’w cael. Bydd eich ymgynghorydd personol yn gallu rhoi gwybodaeth i chi amdanynt.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd a’r Fargen Newydd Hyblyg

Credydau treth

Os ydych yn dod o hyd i swydd a’ch bod yn ennill cyflog isel, efallai y byddwch yn gallu cael credydau treth. Os byddwch yn gymwys, gallech gael rhagor o arian.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Additional links

Cyngor am yrfaoedd a dysgu am ddim

Ddim yn siŵr pa lwybr y dylech ei ddilyn? Cael cyngor diduedd ac am ddim gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU