Llwybr at Waith
Os ydych yn anabl neu gyda chyflwr iechyd, gallai rhaglen Llwybr at Waith eich helpu i ddod o hyd i swydd neu aros mewn gwaith.
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi cynllunio rhaglenni Llwybr at Waith i’ch helpu i oresgyn y rhwystrau y gallech eu gwynebu ym myd gwaith.
Mae Llwybr at Waith yn cynnig cefnogaeth ymarferol os ydych chi neu’r person rydych yn gweithio iddynt angen help, fel eich bod yn gallu gwneud y gorau drosoch eich hun a chael y gorau allan o’ch gwaith.
Mae yna dair o raglenni Llwybr at Waith:
Gall Mynediad at Waith eich helpu os yw’ch iechyd neu anabledd yn effeithio’r ffordd rydych yn gwneud eich gwaith. Mae’n rhoi cynghor a chefnogaeth i chi, ar person rydych yn gweithio iddynt, gyda’r costau ychwanegol a all godi oherwydd eich anghenion.
Gallai Mynediad at Waith dalu tuag at:
Gall hefyd dalu tuag at:
I gael rhagor o wybodaeth gweler 'Mynediad at Waith'.
Mae Paratoi at Waith wedi’i deilwra i gwrdd â’ch anghenion, ond mae fel arfer yn cynnwys gwneud profiad gwaith di-dâl gyda chyflogwr lleol.
Gall Paratoi at Waith eich helpu i fod yn barod i weithio. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio allan beth rydych ei angen o’r rhaglen, a gall gynnig ystod o gefnogaeth i’ch helpu i ddod o hyd i ac i aros mewn gwaith.
Nid oes ffordd benodol y mae Paratoi at Waith yn gweithio. Yn ddibynnol ar eich anghenion, gall barhau am ychydig o oriau hyd at nifer o wythnosau.
I gael rhagor o wybodaeth gweler 'Rhaglen Paratoi at Waith'.
Gall CAM AT WAITH eich helpu os ydych yn credu eich bod angen tipyn o gefnogaeth cyn gwneud swydd ar eich pen eich hun. Mae’n ymwneud â chwrdd â’ch gofynion fel eich bod yn gallu cadw swydd. Efallai eich bod yn gwybod am CAM AT WAITH o dan ei hen enw ‘cyflogaeth wedi’i chynnal’.
I gael rhagor o wybodaeth gweler 'CAM AT WAITH'.
Am ragor o wybodaeth am Lwybr at Waith, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.
Darparwyd gan Jobcentre Plus