Cynnydd at Waith
Mae Cynnydd at Waith yn wasanaeth i’ch helpu i ddod o hyd i waith pan ydych yn gwella ar ôl camddefnyddio cyffuriau.
Mae Cynnydd at Waith yn wasanaeth i bobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio cyffuriau. Gall roi’r gefnogaeth ychwanegol rydych ei angen i ddychwelyd i’r gwaith.
Gall y gwasanaeth eich helpu i:
Gallwch ddewis os ydych am ddefnyddio Cynnydd at Waith neu beidio. Nid oes yn rhaid i chi fod yn hawlio budd-dal i gael y gefnogaeth yma.
Sut mae’n gweithio
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich rhoi mewn cysylltiad â gweithiwr achos arbenigol.
Os bydd angen, bydd eich gweithiwr achos yn eich cefnogi drwy eich triniaeth am gyffuriau. Byddant yn eich helpu i ddod o hyd i’r hyfforddiant rydych ei angen i adeiladau eich sgiliau a’ch hyder i fynd yn ôl i weithio. Bydd eich gweithiwr achos hefyd yn eich helpu i chwilio am swyddi a gwneud cais amdanynt.
Pan fyddwch yn ôl mewn gwaith neu hyfforddiant, bydd eich gweithiwr achos yn aros mewn cysylltiad â chi am hyd at 13 wythnos. Byddant yn eich cefnogi a’ch helpu gydag unrhyw broblemau allech eu cael yn ystod yr amser hynny.
Rhagor o wybodaeth am Gynnydd at Waith
Gallwch gael help ar ddefnyddio Cynnydd at Waith gan eich:
Am ragor o wybodaeth am Gynnydd at Waith cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.
Darparwyd gan Jobcentre Plus