Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canolfannau Hybu Gwaith

Mae Canolfannau Hybu Gwaith yn cael eu rhedeg ar ran y Ganolfan Byd Gwaith gan ystod o ddarparwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Gallent eich helpu gyda cheisiadau am swyddi yn ogystal â chyngor ymarferol ar chwilio am swyddi.

Canolfannau Hybu Gwaith

Efallai gallwch gael help am ddim gyda cheisiadau am swyddi gan un o Ganolfannau Hybu Gwaith y Ganolfan Byd Gwaith, yn ogystal â chyngor ymarferol ar chwilio am waith, cael gwared â’r rhwystrau i gael a chadw swydd, a dychwelyd i’r gwaith.

Mae Canolfannau Hybu Gwaith yn darparu stampiau, deunydd ysgrifennu, papurau newydd a mynediad i’r rhyngrwyd. Mae nifer yn cynnwys unedau dysgu i wella eich sgiliau cyfweld a thechneg ffôn, ac i ddatblygu eich profiad o sut i ymchwilio, gwneud cais am a chael swydd.

Mae Canolfannau Hybu Gwaith hefyd yn darparu help mewn ffyrdd sesiynau hyfforddi sy’n ceisio gwella eich techneg o chwilio am swydd a, ble bo’r angen, adfer hunan hyder.

Os ydych am ymuno a Chanolfan Hybu Gwaith mae’n rhaid i chi:

  • fod yn chwilio am swydd, yn hytrach na hyfforddi neu gymryd rhan mewn cynllun neu raglen arall
  • bod yn barod i fynychu’n rheolaidd

Sut i gael rhagor o wybodaeth

I ddarganfod os oes canolfan hybu gwaith yn eich ardal chi ac os ydych yn gymwys i ddefnyddio’i wasanaethau, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Additional links

Cyngor am yrfaoedd a dysgu am ddim

Ddim yn siŵr pa lwybr y dylech ei ddilyn? Cael cyngor diduedd ac am ddim gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU