Hunangyflogaeth
Mae gweithio i chi eich hun yn opsiwn gwaith arall i chi ei hystyried. Dewch o hyd i’r help a’r cymorth sydd ar gael i chi yn rhad ac am ddim.
Mae llawer o resymau da dros fod yn awyddus i weithio i chi eich hun. Efallai eich bod gennych syniad gwych neu awch am rywbeth y gallwch ennill mwy o arian. Efallai eich bod am weithio o’ch cartref am ei fod yn gweddu’n well i ymrwymiadau teuluol. Neu, efallai eich bod am gymryd mwy o reolaeth ar eich bywyd a bod yn fos arnoch chi eich hun. Os byddwch yn ei chael hi’n iawn gall fod yn hunangyflogedig bod yn gyffrous, yn werthfawr ac yn heriol. I sicrhau eich bod yn cael hi’n iawn, dylech feddwl am siarad gyda’r arbenigwyr busnes.
Mae yna ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ar gael, a’r rhan fwyaf ohono am ddim. O gynllunio busnes i godi cyllid er mwyn sicrhau bod gennych ddigon i fyw arno tra bydd eich busnes yn cael ei sefydlu, mae’r adran hon yn rhoi rhai syniadau i chi o ble i droi.
Mae yna ystod o ffynonellau cyngor sy’n darparu gwybodaeth a chymorth ymarferol ar gyfer busnesau newydd a phresennol. Byddant yn eich helpu i gwrdd â’r holl ofynion cyfreithiol ac ariannol o fod yn hunangyflogedig.
Cymorth Hyblyg i Fusnes, Business Link a Business Gateway
Mae Cymorth Hyblyg i Fusnes yng Nghymru, Business Link yn Lloegr a Business Gateway yn Yr Alban yn darparu’r wybodaeth, cyngor a chymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau, cynnal a datblygu eich busnes.
Pa gymorth arall sydd ar gael
Os ydych wedi bod yn ddi-waith am fwy na chwe mis neu fwy ac rydych wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, mae gan y Ganolfan Byd Gwaith pecyn o gymorth sy’n cynnwys credyd hunangyflogaeth o £50 yr wythnos am hyd at 16 wythnos. Mae hwn yn daladwy p’un a ydych yn lansio busnes neu’n symud i hunangyflogaeth.
Os oes gennych ddiddordeb, siaradwch â’ch ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith am fwy o wybodaeth.
Darparwyd gan Jobcentre Plus