Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bod yn ddiogel wrth chwilio am waith

Wedi i chi wneud cais am efallai y cewch wahoddiad am gyfweliad.
Mae hyn fel arfer gyda’r person neu’r cwmni y gallech fod yn gweithio iddynt. Mae'n werth dilyn ychydig o awgrymiadau sylfaenol ar sut i aros yn ddiogel pan fyddwch yn mynd am gyfweliad.

Byddwch yn ddiogel wrth chwilio am waith

Mae’r rhan fwyaf o ymdrechion i ddod o hyd i waith yn syml. Rydych yn gweld cyfle am swydd yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith, ar y Rhyngrwyd neu hysbyseb mewn papur newydd, ac rydych yn gwneud cais amdani. Fodd bynnag, waeth sut y cafodd y swydd ei hysbysebu, eich cyfrifoldeb chi yw eich diogelwch personol bob amser.

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi cynhyrchu’r argymhellion sylfaenol canlynol ar sut i gadw’n ddiogel pan fyddwch yn mynd am gyfweliad:

  • darganfyddwch cymaint ag y gallwch am y cwmni neu’r person sy’n cynnal y cyfweliad
  • trefnwch sut fyddwch yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r cyfweliad
  • dywedwch wrth ffrind neu berthynas lle rydych yn mynd a pryd rydych yn disgwyl bod yn ôl
  • ar gyfer swyddi sy’n cynnig llety, gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar y llety cyn derbyn y swydd. Os yw’n bosibl, peidiwch â mynd ar eich pen eich hun, hyd yn oed os yw’n golygu y bydd yn rhaid i ffrind neu aelod o’r teulu aros amdanoch y tu allan
  • os yw’r cyfweliad yn cael ei gynnal y tu allan i oriau gwaith arferol, ceisiwch drefnu i rywun ddod i’ch nôl
  • sicrhewch fod y cyfweliad yn cael ei gynnal ar safle gwaith y cwmni neu mewn man cyhoeddus addas
  • peidiwch â gadael i’r cyfweliad gael ei gynnal yn eich cartref chi
  • peidiwch byth â rhoi eich manylion ariannol personol i gyflogwr hyd nes y byddwch yn dechrau’r swydd
  • peidiwch â siarad am faterion personol sydd ddim byd i wneud ar swydd
  • peidiwch â derbyn lifft adref gan y cyfwelydd

Os oes gennych unrhyw bryderon (er enghraifft, rydych yn credu bod y swydd yn cynnig gormod o arian am beth yw’r swydd neu ni ydych yn sicr o’r cwmni), gofynnwch i'r Ganolfan Byd Gwaith am gyngor.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Allweddumynediad llywodraeth y DU