Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich helpu i fynd i weithio

Ar wahanol adegau yn ystod eich bywyd, mae'n bosib y bydd angen mwy o gyngor a chymorth i'ch helpu i fynd i weithio. P'un ai a ydych chi'n rhiant unigol, yn anabl, yn gadael yr ysgol neu'r coleg, dros 50 oed, neu'n ddi-waith, mae cymorth ymarferol ar gael.

Chwilio am swydd

Gallwch chwilio drwy 400,000 a mwy o swyddi gwag y Ganolfan Byd Gwaith ar-lein. Drwy'r gwasanaeth chwilio am swyddi a sgiliau gallwch chwilio am swyddi, hyfforddiant, gwybodaeth am yrfa, gwaith gwirfoddol a darparwyr gofal plant ledled y DU.

Ceir llawer o sefyllfaoedd lle gallwch fod yn chwilio am waith, ac mae gan bawb wahanol anghenion, sgiliau a chyfrifoldebau. Ceir llawer o wahanol fathau o swyddi, ac mae amrywiaeth o gymorth ar gael.

Unig rieni

Newidiadau pwysig i fudd-daliadau i unig rieni

Ar 24 Tachwedd 2008 cyflwynwyd newidiadau i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhai unig rieni.

Golyga'r newidiadau hyn y gallai eich hawl i Gymhorthdal Incwm ddod i ben pan mae'ch plentyn ieuengaf yn cyrraedd 12 oed os dim ond am eich bod yn rhiant unigol yr ydych yn ei hawlio.

Yn hytrach na hynny, gyda chymorth y Ganolfan Byd Gwaith, bydd yn rhaid i chi wneud hawliad am fudd-dal arall ac os yw'r gallu gennych fe'ch anogir i chwilio am waith cyflogedig.

Mae hwn yn un o amryw o newidiadau i'r system fudd-daliadau i helpu pobl i gael y sgiliau ar gyfer gwaith ac i ddechrau gweithio mewn swydd â thâl.

Digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau

Mae cynghorwyr personol y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnal digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau. Mae hon yn ffordd wych o gwrdd â chyflogwyr lleol a chael gwybod beth allant ei gynnig, pa sgiliau y mae eu hangen arnynt a sut mae ffitio eich oriau o amgylch eich teulu. Mae digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer eich dyfodol chi a'ch plant. Mae'n syniad da galw heibio, hyd yn oed os nad ydych yn barod i ddechrau gweithio ar unwaith - er mwyn i chi allu cynllunio eich dyfodol. Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy.

Pobl anabl, pobl â phroblemau gyda'r galon a gofalwyr

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, os ydych wedi cael anaf difrifol neu'n gofalu am rywun, mae cymorth ar gael i chi. Mae cymorth a chyngor ar gael os nad ydych yn gallu gweithio, os ydych yn chwilio am waith neu'n meddwl ei bod yn bosib y byddwch yn chwilio am waith yn y dyfodol.

Yn gadael yr ysgol neu’r coleg

Gall symud o'r ysgol, o'r coleg neu'r brifysgol i fyd gwaith fod yn gam mawr. Hyd yn oed os oes gennych syniad da am ben draw'r daith, nid yw'r ffordd orau o gyrraedd yno bob amser yn glir. Ond mae llawer o gyfleoedd a help ar gael, gan gynnwys cael y profiad angenrheidiol a'r cymorth ariannol ar gyfer hyfforddi.

Dros 50

Os ydych chi'n ddi-waith, gall gymryd amser i ddod o hyd i swydd arall, waeth faint yw eich oed. Fodd bynnag, mae rhaglenni, adnoddau a gwybodaeth arbenigol ar gael i bobl dros 50 i'ch helpu i ddod o hyd i waith neu ddysgu sgiliau newydd.

Yn ddi-waith

Beth bynnag y bo'ch amgylchiadau, os ydych chi'n chwilio am swydd neu'n meddwl tybed sut y gallech chi wella'ch siawns o gael y gwaith rydych chi'n awyddus i'w gael, mae cyngor a chymorth ar gael.

Gwaith sy'n addas i'ch anghenion chi

Os na allwch neu os nad ydych am weithio amser llawn, ceir dewisiadau eraill. Dyma rai esiamplau:

  • gwaith dros dro - gallech weithio mewn swydd am gyfnod penodol, fel arfer fel rhan o brosiect penodol neu i lenwi rôl aelod parhaol o staff
  • gwaith rhan-amser - ffordd dda o ffitio eich gwaith o amgylch cyfrifoldebau eraill a chael arian a phrofiad
  • gweithio hyblyg - weithiau bydd cyflogwyr yn cytuno ar drefniadau gweithio hyblyg - gallai hyn olygu dewis yr amser y byddwch yn dechrau ac yn gorffen gweithio, neu weithio mwy o oriau ar rai diwrnodau fel y gallwch gymryd mwy o amser i ffwrdd
  • gweitho yn ystod y tymor - gallai cael amser i ffwrdd yn ystod gwyliau'r ysgol fod yn ddelfrydol os oes gennych blant a'u bod yn yr ysgol
  • gweithio yn ystod y gwyliau - dewis ymarferol os ydych yn dal i astudio
  • rhannu swydd - weithiau gall dau unigolyn rannu un swydd amser llawn - chwiliwch am swyddi a gaiff eu hysbysebu fel swyddi i'w rhannu, neu os ydych am rannu swydd gyda rhywun rydych yn ei adnabod, gallech bob amser gynnig y syniad i'ch cyflogwr
  • hunan-gyflogaeth - mae gweithio i chi eich hun yn cynnig hyblygrwydd a'r math o her sy'n apelio at rai pobl, ond bydd yn rhaid i chi gael mwy o gyfrifoldeb - er enghraifft, drwy dalu eich treth incwm eich hun
  • gwaith gwirfoddol - mae gweithio heb gyflog yn un ffordd o gael profiad gwaith a chael dysgu mwy am faes sydd o ddiddordeb i chi

Opsiynau eraill

Os ydych yn ddi-waith, gall hyfforddiant neu addysg bellach fod yn gam gwerthfawr at gyflawni nod hirdymor. Nid ar gyfer pobl sy'n gadael yr ysgol yn unig y mae hyfforddiant. Ceir bob amser gyfle i ddatblygu gyrfa, dysgu crefft, neu weithio tuag at gymhwyster proffesiynol drwy hyfforddiant.

Gall cynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi sy'n seiliedig ar eich amgylchiadau personol, a gall eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth y mae gennych hawl i'w chael. Efallai y bydd eich cynghorydd yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad. Gallwch holi hefyd a ydych chi'n gymwys i gael cymorth ariannol tra'r ydych yn chwilio am waith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU