Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod o hyd i swydd yn awr

Drwy'r gwasanaeth chwilio am swyddi a sgiliau gallwch chwilio am swyddi, hyfforddiant, gwybodaeth am yrfa, gwaith gwirfoddol a darparwyr gofal plant ledled y DU.

Y Ganolfan Byd Gwaith sydd â chronfa ddata fwyaf Prydain o swyddi gwag. Hefyd, mae proffiliau gyrfaoedd i'w gweld sy'n cynnwys gwybodaeth am oriau gweithio a chymwysterau.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth chwilio

Mae'r gwasanaeth chwilio'n hawdd ei ddefnyddio, hyd yn oed os nad oes gennych lawer o brofiad o ddefnyddio'r we. I ddefnyddio'r blwch chwilio, teipiwch beth rydych chi'n chwilio amdano ac ymhle drwy roi enw'r dref neu'r ddinas, neu drwy ddefnyddio cod post yr ardal. Er enghraifft, 'Rwyf am gael swydd fel mecanig yn Abertawe' neu 'Rwy'n chwilio am ofal plant yn LL55 1BH'.

Ar gyfer swyddi gwag sy'n cynnwys manylion cyswllt cyflogwr a sut mae gwneud cais, nid oes angen i chi siarad ag aelod o staff y Ganolfan Byd Gwaith, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r cyflogwr eich hun.

Cadw'ch canlyniadau

Drwy gofrestru gyda 'Fy chwiliadau', fe allwch gadw'ch cofnod personol eich hun, cadw'ch hoff chwiliadau, a rhoi dalennod ar fanylion swyddi, hyfforddiant a gwybodaeth am broffiliau gyrfa. Y cyfan sydd angen ei wneud yw cofrestru enw defnyddiwr a chyfrinair, ac yna'u defnyddio y tro nesaf y byddwch chi'n cyflwyno'ch hun.

Allweddumynediad llywodraeth y DU