Mae llawer o gyflogwyr bellach yn hysbysebu eu swyddi gwag ar-lein, ac yn gofyn i chi wneud cais ar-lein.
Byddant yn aml yn dweud wrthych p'un a ydych wedi bod yn llwyddiannus ai peidio dros yr e-bost. Mewn rhai achosion, dyma'r unig ffordd y mae rhai cyflogwyr yn llenwi eu swyddi gwag. Er enghraifft:
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am y swyddi gwag diweddaraf, bydd angen i chi:
Os oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd gartref, yna mae'n hawdd. Os na, dyma rai awgrymiadau:
Er mwyn cael cyfeiriad e-bost, rhowch gynnig ar y chwilotwyr (er enghraifft Google neu Yahoo) gan fod llawer yn cynnig cyfrif e-bost am ddim. Neu, rhowch 'free e-mail address' mewn chwilotwr ac edrychwch ar y canlyniadau. Dilynwch y cyfarwyddiadau i sefydlu cyfeiriad e-bost am ddim.
Unwaith y byddwch wedi cael eich mynediad i'r rhyngrwyd, eich cam nesaf yw dod o hyd i'r mathau o swyddi rydych yn chwilio amdanynt. Caiff swyddi eu hysbysebu fel arfer ar Fyrddau Swyddi sy'n edrych fel papurau newydd electronig. Yn gyffredinol, mae tri math o Fyrddau Swyddi:
Gallwch chwilio am y byrddau swyddi cywir drwy ddefnyddio chwilotwr (er enghraifft Google neu Yahoo). Ceisiwch nodi 'Job Boards' neu 'jobs in retail' ac ati, nes y byddwch yn dod o hyd i'r byrddau swyddi sydd fwyaf addas i chi. Os ydych yn defnyddio eich cyfrifiadur eich hun, gallwch arbed y byrddau swyddi fel ffefrynnau.
Mae dwy brif ffordd i wneud cais am swyddi ar-lein.
Llenwi ffurflen gais ar-lein
Llenwch y manylion yn yr un ffordd a fuasech gyda ffurflen gais arferol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych eich bod wedi llenwi’r holl wybodaeth mae’r ffurflen yn gofyn amdano a bod y wybodaeth yn gywir cyn i chi ei anfon i’r cyflogwr.
E-bostio eich CV
Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i chi anfon eich CV drwy e-bost. Bydd yn rhaid i chi fod wedi arbed eich CV fel y gallwch ei atodi i'r e-bost. Efallai yr hoffech gynnwys llythyr eglurhaol hefyd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ysgrifennu llythyr eglurhaol drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.
Gall cyflogwyr ddewis ateb eich cais mewn e-bost, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich e-bost yn rheolaidd.
Os ydych angen gwella eich sgiliau Technoleg Gwybodaeth, gallai canolfannau ar-lein y DU helpu. Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ar-lein y DU agosaf drwy ddilyn y cyswllt isod neu ffonio canolfannau ar-lein y DU ar 0800 77 1234.