Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfrifo eich hawl gwyliau

Fel arfer, bydd faint o wyliau gewch chi wedi ei nodi yn eich contract cyflogaeth. Yr isafswm statudol yw 4.8 wythnos, ond gall hyn olygu gwahanol faint o wyliau yn dibynnu ar eich oriau gwaith neu'ch patrwm gweithio.

Y cyfrifiad sylfaenol

I gyfrifo'ch lwfans gwyliau sylfaenol lluoswch nifer y dyddiau yr ydych yn eu gweithio bob wythnos â 4.8. Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio pum niwrnod yr wythnos byddai'n:

5 x 4.8 = 24, felly mae gennych hawl i 24 diwrnod o wyliau y flwyddyn.

Ar gyfer cyfrifiadau hawl gwyliau mwy cymhleth gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell gwyliau ar gyfer cyflogeion ar wefan businesslink.gov.uk.

Gweithwyr rhan-amser

Os ydych yn weithiwr rhan-amser, bydd gennych chithau'r hawl i 4.8 wythnos o wyliau - 4.8 o'ch wythnos waith arferol (yn codi i 5.6 wythnos pro rata o 1 Ebrill 2009 ymlaen). Er enghraifft, os ydych yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos mae gennych hawl i o leiaf 9.6 diwrnod o wyliau: 4.8 x 2 = 9.6.

Os ydych chi'n weithiwr rhan-amser, ni ddylech gael eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr amser llawn cyfatebol. Golyga hyn bod gofyn i gyflogwyr sy'n rhoi dyddiau ychwanegol o wyliau i weithwyr amser llawn roi dyddiau ychwanegol i weithwyr rhan-amser hefyd.

Os ydych yn weithiwr asiantaeth, mae'n rhaid i'ch asiantaeth adael i chi gymryd eich gwyliau gyda thâl.

Sut mae delio â rhan-ddiwrnodau

Os ydych chi'n gweithio'n achlysurol neu'n gweithio oriau afreolaidd, efallai mai'r peth hawddaf i'w wneud yw cyfrifo'r hawl gwyliau sy'n cronni yn ôl nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio. Mae'r hawl gwyliau o 4.8 wythnos yn cyfateb i weithio 10.2 y cant o oriau. Ceir y ffigur 10.2 y cant drwy rannu 4.8 wythnos o wyliau â 47.2 wythnos (sef 52 wythnos - 4.8 wythnos).

Rhaid tynnu'r 4.8 wythnos o'r cyfrifiad oherwydd ni fyddech yn bresennol yn ystod y 4.8 wythnos i gronni'r gwyliau blynyddol. Felly petaech wedi gweithio 10 awr, byddai gennych hawl i 61 munud o wyliau â thâl (10.2 x 10 = 1.02 awr = 61 munud). Mae'r hawl gwyliau ychydig dros 6 munud ar gyfer pob awr a weithiwyd.

O 1 Ebrill 2009 mae'r hawl yn 5.6 wythnos, sy'n cyfateb i weithio 12.1 y cant o oriau. Ceir y ffigur 12.1 y cant drwy rannu 5.6 wythnos o wyliau â 46.4 wythnos (sef 52 wythnos - 5.6 wythnos). Fel yr uchod, rhaid tynnu'r 5.6 wythnos o'r cyfrifiad gan na fyddech yn bresennol yn ystod y 5.6 wythnos hynny i gronni gwyliau blynyddol. Felly petaech wedi gweithio 10 awr, byddai gennych hawl i 73 munud o wyliau â thâl (12.1 x 10 = 1.21 = 73 munud). Mae'r hawl gwyliau ychydig dros saith munud ar gyfer pob awr a weithiwyd.

Gweithwyr sifft

Os ydych chi'n weithiwr sifft cyfrifir eich gwyliau drwy ddefnyddio cyfartaledd eich sifftiau dros gyfnod o 17 wythnos. Er enghraifft:

Os ydych bob amser yn gweithio pedair sifft 12 awr ac yn cael pedwar diwrnod i ffwrdd ar ôl gweithio hynny (y patrwm sifftiau 'cyfandirol') mae'r wythnos waith arferol ar gyfartaledd yn tair a hanner o sifftiau 12 awr. Felly mae 4.8 wythnos o wyliau yn 4.8 x 3.5 = 16.8 sifft 12 awr (sy'n codi'n 5.6 wythnos o 1 Ebrill 2009 neu 5.6 x 3.5 = 19.6 sifft 12 awr).

Ar gyfer patrymau sifft eraill, efallai mai'r peth hawsaf i'w wneud yw cyfrifo yn ôl y patrwm ailadrodd sy'n cael ei ddefnyddio.

Gweithwyr amser tymor

Os mai dim ond yn ystod y tymor yr ydych yn gweithio, bydd eich trefniadau gwyliau'n dibynnu ar eich contract cyflogaeth. Os byddwch yn gweithio llai o oriau yn ystod y flwyddyn, gallwch gronni'r hawl pro-rata i'ch absenoldeb â thâl. Mae angen i chi gyfrifo faint o oriau'r wythnos yr ydych yn eu gweithio ar gyfartaledd dros y flwyddyn gron, cyn lluosi hyn â'r lwfans gwyliau.

Er enghraifft:

Cam 1. Lluoswch nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio dan gontract bob wythnos â nifer yr wythnosau yr ydych yn eu gweithio:
Os yw'ch contract yn 40 awr yr wythnos am 40 wythnos y flwyddyn, 40 x 40 = 1,600 oriau gwaith am y flwyddyn (neu 33.9 awr yr wythnos ar gyfartaledd dros 47.2 wythnos o'r flwyddyn)

Cam 2. Lluoswch eich wythnos waith gyffredin â'r lwfans gwyliau:
33.9 x 4.8 = 162.72 awr o lwfans gwyliau bob blwyddyn.
O 1 Ebrill 2009, mae'r cyfrifiad yn newid i 5.6 wythnos x 34.48 awr yr wythnos (dros 46.4 wythnos o'r flwyddyn) = 193.09 awr o wyliau am y flwyddyn.

Cam 3. Os ydych chi am newid hyn yn ddyddiau gwyliau, rhannwch eto yn ôl nifer yr oriau y byddwch yn eu gweithio bob dydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU