Os yw eich cyflogwr wedi mynd yn ansolfent, bydd gennych sawl dewis. Yma cewch wybod beth i'w ansolfedd, beth i’w wneud os oes ar gyflogwr ansolfent arian i chi a sut mae ansolfedd yn effeithio ar eich statws cyflogaeth.
Pan fo cyflogwr yn ansolfent, nid oes ganddo arian i dalu'i ddyledion yn llawn i bobl ac mae'n rhaid iddo wneud trefniadau arbennig i geisio talu'r dyledion hyn.
Mae gwahanol enwau ar wahanol fathau o ansolfedd, ac ar gyfer y bobl sy'n ymdrin â'r rheini.
Os mai cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yw'ch cyflogwr, mae ansolfedd yn golygu un o’r canlynol:
Os mai unigolyn sy'n eich cyflogi, mae ansolfedd yn golygu un o’r canlynol:
Hyd yn oed os na all eich cyflogwr eich talu, efallai y bydd yn dymuno i chi barhau i weithio iddo tra'i fod yn ceisio gwerthu'r busnes. Os byddwch yn parhau i weithio, a busnes eich cyflogwr yn cael ei drosglwyddo, bydd eich hawliau cyflogaeth wedi’u diogelu, gan gynnwys unrhyw dâl sy'n ddyledus i chi.
Mae'n bosibl nad yw eich cyflogwr yn ansolfent yn swyddogol ond na all eich talu serch hynny. Mewn achos o'r fath, efallai y bydd yn gorfod eich anfon adref neu eich rhoi ar wythnos waith fer.
Weithiau mae'n bosibl y bydd busnes yn dal ati os bod siawns y gellir cael rhywfaint neu'r cyfan o'r busnes yn ôl ar ei draed, neu ei werthu i berchennog newydd.
Os digwydd hyn, efallai y gofynnir ichi barhau i weithio. Nid effeithir ar eich hawliau i dâl ansolfedd os bydd y cwmni'n cau'n ddiweddarach.
Fel arfer caiff rhywun a elwir yn ‘ymarferydd ansolfedd’ neu ‘dderbynnydd swyddogol’ ei benodi i ddelio â’r ansolfedd. Byddant yn gyfrifol am yr achos a gallant fod un o’r canlynol:
Os yw eich cyflogwr wedi mynd yn ansolfent, efallai y gallwch hawlio:
Mae'r holl daliadau'n rhwym wrth uchafswm o £330 am wythnos o gyflog (£350 o 1 Chwefror 2009).
Dim ond os sicrheir digon o gronfeydd arian o asedau'r cwmni ar ôl i'r Gronfa Yswiriant Gwladol dalu y bydd unrhyw dâl sy'n parhau'n ddyledus yn cael ei gynnig.
Bydd rhai dyledion, gan gynnwys cyflogau a thâl gwyliau, yn cael eu hystyried yn 'ddyledion blaenoriaethol' pan fydd asedau'ch cyflogwr yn cael eu rhannu. Golyga hyn bod rhaid talu'r rhain cyn mathau eraill o ddyledion.
Os yw'r busnes yr ydych yn gweithio iddo wedi cau, bydd angen i chi ganfod a yw eich cyflogwr yn ansolfent neu mewn trafferthion yn unig. Mae Tŷ'r Cwmnïau yn cadw manylion masnachu ar ei gofrestr cwmnïau, a gallwch gael gwybodaeth am bobl sydd wedi'u dyfarnu'n fethdalwyr gan y Gwasanaeth Ansolfedd
Os yw'r cwmni'n dal i fasnachu ond nad ydych chi'n cael eich talu, efallai y gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth fod didyniad anghyfreithlon wedi'i wneud o'ch tâl.
I wneud ymholiadau cyffredinol ynghylch ansolfedd, ffoniwch Linell Gymorth y Gwasanaeth Ansolfedd neu gallwch lenwi ffurflen ymholiad ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd.
I wneud ymholiadau am ddileu swyddi o gyflogwyr ansolfent, ffoniwch y Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd.
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, mae’r drefn sy’n berthnasol i chi yn wahanol. Dylech ymweld â nidirect am gyfarwyddyd.