Mae sut a phryd y byddwch yn gwneud cais am gyrsiau addysg uwch yn dibynnu ar ba fath o gwrs rydych yn gwneud cais ar ei gyfer - ac, mewn rhai achosion, pa brifysgolion neu golegau rydych yn gwneud cais ar eu cyfer. Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddilyn, mae’n ddefnyddiol dechrau paratoi ymhell ymlaen llaw.
Gyda'r rhan fwyaf o gyrsiau israddedig llawn amser, bydd angen i chi wneud cais ar-lein drwy wefan UCAS. Ewch i ‘Canllaw i fynediad at addysg uwch drwy UCAS’ i gael sut y mae yn gweithio.
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd adref, yn yr ysgol neu yn y coleg, gweler ‘Gwneud cais drwy UCAS mewn canolfan ar-lein’ i gael cyngor ar beth y dylech ei wneud.
Os ydych yn gwneud cais i ysgol gerdd
Ymdrinnir â cheisiadau i bob ysgol cerddoriaeth y DU, ac eithrio’r Guildhall School of Music and Drama a’r Academi Frenhinol Cerddoriaeth, gan y Gwasanaeth Derbyn Ysgolion Cerddoriaeth y DU (CUKAS).
Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a chyrsiau ôl-radd eraill
Mae’r drefn am wneud cais yn wahanol ar gyfer cyrsiau ôl-radd. Ewch i ‘Dod o hyd i le ôl-radd’ am ragor o wybodaeth.
I gael y cyfle gorau posibl o gael lle ar y cwrs o'ch dewis, bydd angen i chi wneud cais ar amser.
Er mwyn cael eich ystyried ‘ar amser’, bydd angen i chi fodloni’r amserlen berthnasol. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau llawn amser, bydd hyn yn digwydd ar 15 Ionawr cyn y byddwch yn dechrau chwilio (tua naw mis cyn i’r cyrsiau ddechrau ym mis Medi).
Ond dylech fod yn ymwybodol bod yr amserlen yn gynt ar gyfer rhai cyrsiau a sefydliadau. Ewch i ‘Cwblhau eich cais UCAS’ i gael mwy o fanylion am amserlenni.
Gallwch wneud cais drwy UCAS hyd at ddiwedd mis Mehefin. Mae’n bosib y gall prifysgolion a cholegau ystyried eich cais o hyd, ond gall y cyrsiau mwyaf poblogaidd fod yn llawn yn barod. Os byddwch yn gwneud cais ar ôl diwedd mis Mehefin, cewch eich trosglwyddo i’r drefn Glirio yn awtomatig.
Gyda chyrsiau rhan amser, gwnewch gais uniongyrchol i'ch prifysgol neu'ch coleg. Gallwch chwilio am gyrsiau rhan amser ar-lein ar wefan Directgov.
Er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich cwrs addysg uwch, mae’n syniad da dechrau ymchwilio i’ch opsiynau ymhell ymlaen llaw.
Dechreuwch feddwl am y peth o leiaf blwyddyn cyn dyddiad cau’r cais. Gallwch gael awgrymiadau ar bethau i’w hystyried yn ‘Lle i fynd, beth i’w astudio’.
Os ydych yn gwneud cais drwy UCAS, mae’n syniad da cofrestru ar gyfer eu gwasanaeth ‘Apply' cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi weithio ar eich cais – yn enwedig yr adran ‘datganiad personol’.
Cyn i chi wneud cais
Os ydych yn bwriadu cymryd blwyddyn allan, sicrhewch eich bod yn cysylltu â’ch colegau a'ch prifysgolion i weld a wnânt dderbyn cais am fynediad wedi’i ohirio.
Os oes gennych amser, gall cael rhywfaint o brofiad gwaith sy’n berthnasol i’ch cwrs helpu i wneud eich cais yn fwy nodedig