Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dychwelyd i ddysgu

Os ydych chi'n dymuno newid eich gyrfa, meithrin sgiliau newydd neu ddim ond cwrdd â phobl newydd, efallai mai dychwelyd i ddysgu yw’r ateb. Gallwch gael cyngor am ddim i'ch helpu i benderfynu ar eich camau nesaf.

Dychwelyd i weithio ar ôl egwyl

Gellir cael mwynhad wrth ddysgu. Mae'n ffordd wych o wneud iawn am unrhyw beth y gwnaethoch golli allan arno yn yr ysgol, neu fe allai eich paratoi ar gyfer eich cam nesaf yn eich gyrfa.

Mae sgiliau’n dod yn fwy a mwy pwysig mewn mannau gwaith y dyddiau hyn, a gallai dilyn cwrs agor drysau at ddewisiadau newydd o ran swyddi.

Beth bynnag yw’ch rhesymau dros ddychwelyd i ddysgu, mae llawer o gefnogaeth ar gael i’ch helpu.

Cyngor am ddim dros y ffôn neu e-bost

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd yn cynnig cyngor di-dâl a diduedd dros y ffôn:

  • 0800 100 900 (mae galwadau'n rhad ac am ddim, ac mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith niwrnod yr wythnos)

Mae'n bosib y bydd gennych hawl i dair sesiwn gynghori dros y ffôn. Bydd y rhain yn eich helpu i bennu'ch amcanion a chadw golwg ar eich cynnydd ac yn eich helpu gyda CVs, cyfweliadau a chynlluniau gweithredu. Yn ogystal â hyn, gallwch gael gwybodaeth am y cymorth ariannol a all fod ar gael i chi.

Hefyd, cewch drefnu i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus, neu anfon eich cwestiwn dros e-bost at gynghorydd dysgu.

Cyngor wyneb-yn-wyneb am ddim: nextstep

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor wyneb-yn-wyneb gan eich gwasanaeth nextstep lleol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Deall eich cryfderau

mae’n bur debyg eich bod wedi bod yn meithrin sgiliau fel rhan o fywyd bob dydd

Mae byw yn y byd modern yn golygu gorfod dysgu pethau newydd drwy’r amser. Hyd yn oed os nad ydych wedi bod mewn ystafell ddosbarth ers blynyddoedd, mae’n bur debyg eich bod wedi bod yn meithrin y sgiliau y mae eu hangen arnoch i'ch gwneud yn ddysgwr llwyddiannus:

  • trefnu'ch amser
  • gofyn cwestiynau
  • gwrando ar bobl
  • adnabod eich crydferau
  • canfod sut mae datrys problemau

Oedolion sy'n dysgu: dod o hyd i'r cwrs iawn

Ddim yn hoff o arholiadau? Peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro: mae llawer o gyrsiau sy’n gadael i chi ddangos beth yr ydych wedi’i ddysgu mewn ffordd sy’n llai ffurfiol. Mae’r rhain hefyd yn ffyrdd o asesu:

  • creu portffolio o waith wrth i’r cwrs fynd rhagddo, neu
  • dangos eich sgiliau mewn ffordd ymarferol

Cofiwch ei bod yn bosib y gallech gael cymorth ariannol – gan gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant.

Bydd llawer o gyrsiau’n rhoi cyfle i chi astudio mewn ffordd sy’n addas i chi, felly gallwch ddysgu o gwmpas eich ymrwymiadau eraill. Gallech ystyried cwrs sy’n gadael i chi wneud rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwaith gartref. Gelwir y math yma o gwrs yn gwrs ‘hunan-astudio’, ‘dysgu o bell’, ‘dysgu agored’ neu ‘e-ddysgu’.

Meddwl am addysg uwch?

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion nifer sylweddol o fyfyrwyr ‘hŷn’, a byddant yn aml yn ystyried ystod o gymwysterau wrth edrych ar geisiadau. Efallai y gwelwch hefyd i chi gael eich canmol am brofiad gwaith blaenorol.

Os nad yw eich cymwysterau'n ateb y gofynion mynediad safonol ar gyfer addysg uwch, fe allech ddilyn cwrs Mynediad.

Does dim rhaid i chi gael llawer o gymwysterau blaenorol i ddilyn cwrs Mynediad, a bydd yn caniatáu i chi feithrin sgiliau astudio, gwybodaeth a hyder.

Cofiwch y gallwch astudio cwrs addysg uwch mewn nifer o golegau lleol a hefyd mewn prifysgolion. Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr - gan gynnwys, mewn rhai achosion, cymorth ariannol ychwanegol os oes gennych blant.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Dod o hyd i’ch swyddfa nextstep agosaf

Dod o hyd i gefnogaeth gyrfaoedd a dysgu wyneb-yn-wyneb gan eich swyddfa nextstep leol

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU