Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Grant Dysgu i Oedolion: sut i wneud cais

Gyda'r Grant Dysgu i Oedolion, gallech gael hyd at £30 yr wythnos tra byddwch yn astudio. Mae'n hawdd cael pecyn ymgeisio - gwnewch gais ar-lein, dros y ffôn neu yn eich coleg. Ond dyma rai cwestiynau y byddech, o bosib, yn hoffi cael ateb iddynt cyn gwneud cais.

Pryd i wneud cais

Dylech wneud cais am Grant Dysgu i Oedolion mewn da bryd cyn i'ch cwrs ddechrau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl daliadau. Er hyn, bydd yn bosib i chi wneud cais yn nes ymlaen yn y tymor. Gellir ôl-ddyddio taliadau mewn rhai achosion.

Mae ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/10 ar agor yn awr.

Archebu eich pecyn ymgeisio am Grant Dysgu i Oedolion

Ceisiadau ar gyfer 2009/10

Y ffordd hawsaf o gael pecyn ymgeisio am Grant Dysgu i Oedolion yw gwneud cais ar-lein.

Gallwch hefyd gael pecyn ymgeisio drwy wneud y canlynol:

  • cysylltu â thîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich coleg
  • ffonio llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989

Ceisiadau ar gyfer 2008/2009

Mae'n bosib cael ffurflen gais ar gyfer 2008/09 o hyd gan linell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr: ffoniwch 0800 121 8989

Sut allwch chi helpu i osgoi oedi wrth brosesu'ch cais?

Er mwyn osgoi oedi cyn i chi gael eich arian, sicrhewch eich bod wedi cael popeth sydd ei angen arnoch cyn gwneud cais. I wneud cais am Grant Dysgu i Oedolion, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfrif banc sy'n derbyn taliadau electronig trwy system BACS (gall y mwyafrif o gyfrifon cyfredol wneud hyn)
  • copi o'ch tystysgrif geni, trwydded yrru neu basport cyfredol
  • tystiolaeth o gyfanswm eich incwm trethadwy a'ch buddion trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol – os ydych yn byw gyda'ch partner, dylech gynnwys manylion incwm a buddion trethadwy eich partner

Pa ddogfennau sydd angen i chi eu darparu fel tystiolaeth incwm?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu'r wybodaeth o'r flwyddyn dreth gywir

Bydd angen i chi roi tystiolaeth o unrhyw incwm trethadwy a buddion trethadwy a gawsoch yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol, ynghyd â'ch cais.

Felly, os ydych yn gwneud cais am Grant Dysgu i Oedolion ar gyfer cwrs sy'n dechrau cyn mis Ebrill 2010, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r flwyddyn dreth a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2009.

Os ydych chi'n byw gyda phartner, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'u hincwm trethadwy a'u buddion trethadwy hwythau hefyd.

Gall tystiolaeth o'ch incwm trethadwy a'ch buddion trethadwy olygu:

  • Hysbysiad am Ddyfarniadau Credyd Treth
  • prawf o gyflog neu dâl (ffurflen P60 neu slip cyflog 52 wythnos/12 mis)
  • manylion ynglŷn â breintiau a roddir i gyflogeion, fel car cwmni neu gynllun gofal iechyd y cwmni (darparwch ffurflen P11D)
  • prawf o incwm o waith hunangyflogedig (darparwch eich Cyfrifiad Treth ar gyfer Hunanasesiad - ffurflen SA302)
  • prawf o incwm trethadwy o eiddo (darparwch gyfrifon wedi'u hardystio neu gytundeb tenantiaeth)
  • prawf o incwm trethadwy o gynilion, cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau eraill (anfonwch gyfriflen neu daleb treth)
  • prawf o incwm trethadwy o bensiynau'r wladwriaeth, pensiynau preifat a phensiynau cyflogwyr (darparwch ffurflen P60 neu gyfriflen)

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud cais?

Fe welwch gyfarwyddiadau yn y pecyn ymgeisio ble i anfon eich ffurflen gais. Ar ôl iddynt gael eich cais, bydd tîm y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr yn dechrau ei brosesu.

Byddant wedyn yn rhoi gwybod i chi naill ai:

  • eich bod yn gymwys i gael Grant Dysgu i Oedolion, a faint gewch chi
  • bod angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth am eich cais, neu
  • nad ydych yn gymwys i gael Grant Dysgu i Oedolion

Ddim yn fodlon gyda'r ffordd y deliwyd â'ch cais i gael Grant Dysgu i Oedolion?

Os nad ydych yn gwbl fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 121 8989. Bydd cynghorwyr Cefnogaeth i Ddysgwyr yn fwy na pharod i'ch helpu i ddatrys eich problem

Beth sy'n digwydd os na fyddwch yn mynychu'r coleg yn rheolaidd?

Dim ond os ydych wedi bod yn mynychu'r coleg yn foddhaol y cewch daliadau'r Grant Dysgu i Oedolion. Eich coleg fydd yn penderfynu a yw eich lefelau presenoldeb yn foddhaol ai peidio - ond dylent weithredu ar sail arweiniad a gânt ynglŷn â'r mater gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau.

Additional links

Cyngor ar gyfer y Grant Dysgu i Oedolion

I gael cyngor ar eich cais am y Grant Dysgu i Oedolion, ffoniwch 0800 121 8989

Cyngor am y cwrs

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU