Mae pob math o bobl yn gwneud pob math o gyrsiau gyda'r Grant Dysgu i Oedolion. Os ydych yn gymwys, gallai roi hyd at £30 yr wythnos i chi - ond mae'n rhaid i chi fodloni rhai amodau i fod yn gymwys.
Er mwyn cael y Grant Dysgu i Oedolion, rhaid i chi fod yn 19 neu'n hŷn, ac yn astudio yn Lloegr.
Gall eich dewis o gwrs a'ch incwm bennu a ydych yn gymwys hefyd.
Rhaid i'r cwrs yr ydych yn ei ddilyn arwain at eich cymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 llawn cyntaf er mwyn i chi fod yn gymwys ar gyfer y Grant Dysgu i Oedolion.
Rhaid i chi hefyd fod yn astudio ar sail amser llawn - o leiaf 12 awr yr wythnos (sy'n cyfateb i 450 awr o 'ddysgu dan arweiniad' y flwyddyn, neu 150 awr y tymor) - a mynychu'r coleg yn rheolaidd.
Yn olaf, rhaid i chi ddilyn y cwrs gyda darparwr dysgu a ariennir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau. Gofynnwch i'ch coleg os nad ydych yn siŵr.
Mae cymwysterau Lefel 2 yn gyfystyr â phump TGAU neu fwy gyda graddau A* i C, neu NVQ lefel 2. Mae cymwysterau Lefel 3 yn gyfystyr â dau gymhwyster Safon Uwch neu NVQ lefel 3.
Os ydych yn ansicr ynghylch lefel eich cwrs, gofynnwch i'ch darparwr dysgu neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor Gyrfa ar 0800 100 900.
I gael Grant Dysgu i Oedolion, ni ddylech fod wedi ennill mwy na'r trothwy incwm yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Y trothwy ar hyn o bryd yw:
Mae'r trothwy incwm yn seiliedig ar eich incwm gros – eich incwm cyn tynnu treth a didyniadau eraill.
Ni fyddwch yn gymwys i gael y Grant Dysgu i Oedolion os ydych yn hawlio budd-daliadau diweithdra megis Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm.
Fodd bynnag, ni fydd y rhan helaeth o'r mathau eraill o gymorth ariannol sydd ar gael yn gwneud dim gwahaniaeth o ran a allwch chi gael Grant Dysgu i Oedolion ai peidio.
Gallwch wneud cais hyd yn oed os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser – ac os ydych chi'n hawlio'r rhan fwyaf o fudd-daliadau 'mewn gwaith', fel Bwrsarïau Addysg i Oedolion, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.
Ond ceir rhai eithriadau – edrychwch ar ‘Y Grant Dysgu i Oedolion a'ch budd-daliadau’ i gael manylion.
Os ydych chi'n gymwys i gael y Grant Dysgu i Oedolion, canfyddwch faint allech chi ei gael.
I gael cyngor ar eich cais am y Grant Dysgu i Oedolion, ffoniwch 0800 121 8989