Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grantiau Dawns a Drama: straeon myfyrwyr

Beth ydy'r cysylltiad rhwng The Sound of Music, Stevie Wonder a Holby City? Yma, mae tri o sêr y llwyfan a'r sgrin yn egluro sut y gwnaethon nhw fanteisio i'r eithaf ar eu Grantiau Dawns a Drama.

Connie Fisher

“Rhoddodd y Grant Dawns a Drama gyfle i mi wireddu fy uchelgais”

Ym mis Medi 2006, enillodd Connie Fisher gystadleuaeth genedlaethol i gael chwarae rhan Maria mewn cynhyrchiad llwyfan newydd o 'The Sound of Music' gan Andrew Lloyd Webber.

Darlledwyd y gystadleuaeth, 'How Do You Solve a Problem Like Maria?' ar y BBC, a Connie ddaeth i'r brig ar ôl i ddwy filiwn o bobl fwrw'u pleidlais yn genedlaethol.

Enillodd Connie'r rhan ar ôl astudio yn Academi Mountview, ar gwrs y cafodd Grant Dawns a Drama ar ei gyfer.

Dywedodd, "Rhoddodd y Grant Dawns a Drama gyfle i mi wireddu fy uchelgais. Cefais hyfforddiant gwych am dair blynedd, ac fe wnaeth yr hyfforddiant hwnnw fy mharatoi ar gyfer y pethau da a'r pethau drwg mae rhywun yn ei wynebu yn y maes. Heb yr hyfforddiant, fyddwn i byth wedi llwyddo."

"Yn awr, diolch i Mountview a chymorth y Cyngor Dysgu a Sgiliau, byddaf yn cael cyfle i 'ddringo pob mynydd' fel petai, a gwireddu fy mreuddwyd yn y Palladium yn Llundain".


Jaye Jacobs

"Rwyf mor falch fy mod i wedi'i wneud e"

Ni allai Jaye Jacobs ddychmygu gwneud unrhyw beth arall heblaw perfformio, ond mae hi'n gwybod na fyddai wedi gallu mynd i'r proffesiwn heb gefnogaeth lwyr ei rhieni, a ddywedodd wrthi am "fynd amdani!" Bellach mae hi'n chwarae rhan Nyrs Donna Jackson yn rhaglen Holby City ar BBC1.

Ar ôl bod yn Ysgol Ddawns Joy Tinney yn ei thref enedigol, Caerfaddon, am ddeng mlynedd, aeth am glyweliad am le yn Ysgol Addysg y Celfyddydau yn Llundain. Dywed Jaye na fyddai wedi gallu mynd i'r ysgol heb y Grant Dawns a Drama, a dalodd ei ffioedd.

Graddiodd Jaye ym mis Gorffennaf 2003 gan ennill Diploma Genedlaethol mewn Theatr Gerddorol Broffesiynol. Yn ystod tymor cyntaf 2003, treuliodd dri mis yn y sioe gerdd 'Rent' yn y West End yn Llundain gan gwblhau ei chwrs hyfforddi yr un pryd. "Roedd o'n waith caled dros ben, doeddwn i ddim yn gwybod os oeddwn i'n mynd neu'n dod! Ond dwi mor falch fy mod i wedi ei wneud. Mae'r profiad wedi fy mharatoi ar gyfer popeth bron."

Nathaniel Morrison

"Rwyf wedi llwyddo i gael hyfforddiant gwych ac i wireddu fy mreuddwyd"

Ers iddo raddio o'r cwrs Theatr Gerddorol ym Mountview ym mis Ebrill 2005, mae Nathaniel Morrison eisoes wedi sicrhau ei ran broffesiynol gyntaf, yn chwarae rhan yr enwog Stevie Wonder yn y sioe motown newydd 'Dancing In The Streets' yn y West End.

"Mae pethau wedi symud mor sydyn" eglurodd Nathaniel.

"Cefais gynnig clyweliad ar gyfer taith Dancing In The Streets pan oeddwn yn ymarfer ar gyfer fy sioe olaf ym Mountview. Yna, cefais fy rhoi ar lyfrau asiant a chefais gynnig chwarae rhan Stevie Wonder." Roedd y sioe mor llwyddiannus nes iddi symud ar fyr o dro i'r West End, lle mae Nathaniel erbyn hyn yn perfformio chwe diwrnod yr wythnos.

Mae Nathaniel yn frwdfrydig dros ben am ei waith. "Rwyf wastad wedi bod eisiau perfformio yn y West End, ac mae'r hyfforddiant a gefais ym Mountview wedi fy mharatoi go iawn ar gyfer y maes. Gyda chymorth gan y cynllun grantiau Dawns a Drama, rwyf wedi llwyddo i gael hyfforddiant gwych ac i wireddu fy mreuddwyd".

Rhagor o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am brofiadau myfyrwyr dawns a drama ar ôl iddyn nhw orffen eu hyfforddiant ar gael mewn llyfryn. Gallwch lwytho copi o'r llyfryn mewn fformat PDF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y cynllun, cysylltwch â llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr.

Additional links

Sêr Dawns a Drama

The Sound of Music, Stevie Wonder a Holby City - maent i gyd yn gysylltiedig â'r Grantiau Dawns a Drama...

Allweddumynediad llywodraeth y DU