Os ydych yn iau nag 20 oed, gall Gofal i Ddysgu helpu i dalu am ofal plant tra byddwch chi'n dysgu. Mae'n hawdd gwneud cais: dilynwch y camau syml a welir isod.
Gwnewch gais am Ofal i Ddysgu cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu beth yr ydych am ei wneud. Os ydych chi am elwa o'r cynllun dylech wneud yn siŵr eich bod yn dechrau dysgu cyn eich pen-blwydd yn 20 oed.
Er mwyn talu eich darparwr gofal plant o'r diwrnod y byddwch yn dechrau dysgu, bydd angen i chi wneud cais cyn i'ch cwrs dysgu ddechrau - neu o fewn 28 diwrnod ers iddo ddechrau.
Mae'r ceisiadau'n gyflym ac yn hawdd. Fodd bynnag, os bydd angen help arnoch gallwch gysylltu ag un o'r canlynol:
I gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch pwy sy'n gymwys ar gyfer Gofal i Ddysgu, cysylltwch â'r llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Pan fyddwch yn gwneud cais am Ofal i Ddysgu, bydd angen i chi wybod:
Fodd bynnag, nid oes angen cadarnhau eich lle ar y cwrs.
I gael pecyn gwneud cais am Ofal i Ddysgu, cysylltwch â'r llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Mae'r pecyn gwneud cais yn disodli'r ffurflen PDF, nad yw ar gael mwyach. Mae'r ffurflen PDF wedi'i disodli gan nad oedd bob amser yn glir pan oedd yn cael ei hargraffu - a oedd weithiau'n achosi oedi wrth ei phrosesu.
Mae angen i chi lenwi ffurflen gais. Os bydd angen cymorth arnoch, holwch eich Ymgynghorydd Connexions, eich rhieni neu eich gofalwr - neu darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd a ddaw gyda'r ffurflen.
Rhaid i'r ffurflen hon gael ei llenwi a'i llofnodi:
Bydd angen i chi fynd â thystysgrif geni eich plentyn (neu lythyr budd-daliadau eich plentyn) i ddarparwr y cwrs wneud llungopi ohonynt. Bydd angen i'r darparwr gofal plant hefyd anfon copi o'u tystysgrif cofrestru Ofsted gyda'r cais.
Ceisiadau ar gyfer 2008/2009: amodau preswylio
Os ydych chi'n gwneud cais newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2008/09, nid oes angen i chi lenwi'r rhan o'r ffurflen gais Gofal i Ddysgu sy'n cynnwys y pennawd 'Rhiant Ifanc – Amodau Preswylio'.
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais ar gyfer 2008/09 a bod ymholiad wedi codi ynghylch eich ffurflen, neu ei bod wedi'i gwrthod am resymau preswylio, bydd y gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr yn cysylltu â chi.
Ar 10 Tachwedd 2008, tynnwyd yr amodau preswylio ar gyfer ceisiadau 2008/09 yn ôl, ac maent yn cael eu hadolygu ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/10. Felly, yn dibynnu ar eu statws preswylio, mae'n bosib na fydd rhai pobl sy'n cael Gofal i Ddysgu yn parhau i'w gael o fis Medi 2009 ymlaen.
Ewch i 'Gofal i Ddysgu: ydych chi'n gymwys?' i gael mwy o wybodaeth am amodau preswylio.
Ar ôl i'r gwasanaeth Cefnogaeth i Ddysgwyr gael eich ffurflen, byddant yn edrych a yw pob rhan ohoni wedi ei llenwi.
Oni fydd, caiff y ffurflen ei dychwelyd atoch gyda chais am yr wybodaeth sydd ar goll. Efallai yr anfonir y cais atoch dros e-bost (os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost) neu drwy'r post. Os byddwch wedi rhoi'r holl wybodaeth ofynnol a'ch bod yn gymwys i gael Gofal i Ddysgu, bydd y gwasanaeth Cefnogaeth i Ddysgwyr yn ysgrifennu atoch chi a'ch darparwr gofal plant o fewn tair wythnos. Bydd y llythyr hwn yn cadarnhau beth fydd eich taliadau Gofal i Ddysgu a phryd y cânt eu gwneud.
Os nad ydych yn gymwys i gael Gofal i Ddysgu, cewch lythyr yn egluro pam.
Ddim yn fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais?
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, ffoniwch y llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Caiff ei staffio gan gynghorwyr a fydd yn fwy na bodlon eich helpu i ddatrys eich problem.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen 'newid mewn amgylchiadau' os bydd unrhyw newid i'r canlynol:
I gael ffurflen newid mewn amgylchiadau, ffoniwch y llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Os byddwch yn gadael eich darparwr gofal plant presennol, efallai y bydd yn rhaid i chi roi mis o rybudd.
Dylech anfon y ffurflen gais Gofal i Ddysgu a'r ffurflen newid mewn amgylchiadau wedi'u llenwi i'r cyfeiriad canlynol:
Care to Learn
Freepost RSAX-RXKX-GZBZ
Learner Support Service
Manceinion
M3 3JZ