Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynd i'r llys a hwyluso mynediad

Efallai y bydd angen cyfleusterau neu gymorth ychwanegol arnoch os ydych chi’n mynd i’r llys fel tyst, rheithiwr, dioddefwr neu ddiffynnydd. Dylai mynediad i ystafelloedd llys a mannau lle cynhelir achosion sifil neu deulu fod yn hwylus i bobl anabl.

Paratoi i fynd i'r llys

Os oes rhaid i chi fynd i'r llys, bydd y llys yn anfon manylion atoch megis dyddiad ac amser y gwrandawiad, amseroedd agor y llys a'r lleoliad. Anfonir manylion am y llys atoch hefyd gan gynnwys:

  • trefniadau, cyfleusterau a chymorth ar gyfer pobl anabl
  • rhif ffôn llinell gymorth neu rif ffôn testun fel y gallwch gael rhagor o wybodaeth

Gallwch chi helpu'r llys trwy ddweud wrthynt ymlaen llaw os oes gennych unrhyw ofynion.

Gallwch ddod â ffrind, perthynas neu ofalwr i'r llys. Ni fyddant yn derbyn treuliau megis costau teithio, onid yw'r llys yn cytuno bod rhaid iddynt fod yno, er enghraifft, i'ch cynorthwyo chi.

Cyfleusterau yn y llys

Rhaid i'r llysoedd ddarparu dull rhesymol arall o sicrhau mynediad at wasanaethau i bobl anabl, pan fo nodwedd ffisegol yn ei gwneud yn amhosibl neu’n afresymol o anodd i bobl anabl ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Mae'r mathau o gyfleusterau ac 'addasiadau rhesymol' y dylid eu cael mewn adeiladau llys yn cynnwys:

  • mannau parcio i bobl anabl gerllaw'r llys
  • dolenni sain ar gyfer teclynnau clywed yn yr ystafelloedd llys
  • taflenni gwybodaeth a chardiau llwon ar gael mewn print bras
  • cyngor a gwybodaeth am drefn y llys
  • staff wedi'u hyfforddi i gynorthwyo pobl anabl os bydd angen

Cysylltwch â'r llys i gael gwybodaeth am y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael. Mae gan y rhan fwyaf o lysoedd 'swyddog gwasanaeth i gwsmeriaid' a all ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Os bydd angen, gall staff drefnu i chi ymweld â'r llys er mwyn i chi ddod yn gyfarwydd â'r adeilad. Bydd y manylion am sut i gysylltu â'r llys ar unrhyw ohebiaeth yr anfonwyd atoch.

Gallwch hefyd chwilio am gyfeiriadau llysoedd, manylion cyswllt a mapiau, a llwytho taflenni gwybodaeth lleol drwy ddefnyddio gwasanaeth chwilio am lysoedd ar-lein Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.

Cyfryngwyr mewn treialon troseddol

Os ydych yn ymddangos fel tyst mewn treial troseddol a bod angen help arnoch i gyfleu eich tystiolaeth yn y ffordd orau, efallai y cewch ddefnyddio Cyfryngwr Cofrestredig. Gallwch ddefnyddio'r cyfryngwr i'ch helpu i roi tystiolaeth yn yr orsaf heddlu ac yn y llys.

Mae Cyfryngwyr Cofrestredig wedi’u cymeradwyo gan y llys i egluro i’r tyst y cwestiynau y mae’r llys, timau’r erlyniad a’r amddiffyniad am eu gofyn, ac i gyfleu'r atebion a roddir gan y tyst. Ni chaiff cyfryngwyr newid ystyr yr hyn y maent yn ei egluro.

Nid yw Cyfryngwyr yn gweithredu ar ran yr erlyniad, yr amddiffyniad na'r tyst. Maent yn niwtral.

Cael eich gwysio i fod yn rheithiwr

Mae'r ffurflenni gwŷs rheithgor yn gofyn a oes gennych unrhyw ofynion ychwanegol. Unwaith y bydd swyddfa gwysio'r rheithgor wedi prosesu eich ymateb i’r wŷs, anfonir rhagor o wybodaeth atoch a fydd yn dweud wrthych am gyfleusterau'r llys.

Mae gan wefan y System Cyfiawnder Troseddol lawer o wybodaeth am fod yn rheithiwr, gan gynnwys 'rhith-daith i reithwyr' ar ddiwrnod gwasanaeth rheithgor.

Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi

Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) sy’n gwneud y gwaith gweinyddu a chynnal dros y Llys Apêl, yr Uchel Lys, Llys y Goron, y llysoedd ynadon, y llysoedd sirol a’r Gwasanaeth Profiant. Ei bwrpas yw gweinyddu cyfiawnder yn effeithiol ac yn effeithlon i’r cyhoedd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, gan gynnwys sut y caiff ei strwythuro, ar wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU