Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Byw i'r Anabl – eich amgylchiadau

Yma cewch wybod beth sy'n cyfrif fel newid mewn amgylchiadau a beth i'w wneud pan fydd eich amgylchiadau'n newid. Mae hyn yn cynnwys amodau'n ymwneud â phreswyliaeth a phresenoldeb y mae angen i chi eu bodloni i gael y Lwfans Byw i'r Anabl.

Newid mewn amgylchiadau

Gall newid yn eich amgylchiadau effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Byw i'r Anabl, neu ar y swm a gewch.

Mae hyn yn cynnwys newid yn eich anghenion gofal neu symudedd, os cewch eich derbyn i gartref gofal neu i un o ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu os ewch chi dramor i fyw neu ar ymweliad.

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau.

Eich anabledd neu eich cyflwr meddygol

Mae newid mewn amgylchiadau yn golygu pan fydd arnoch chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, angen llai o gymorth gyda gofal personol neu oruchwyliaeth, neu'n cael llai o drafferth cerdded, oherwydd bod eich cyflwr wedi gwella neu am fod gennych gynorthwyydd i'ch helpu.

Os bydd eich cyflwr chi, neu gyflwr y sawl yr ydych yn gofalu amdano/i, yn gwaethygu a bod angen mwy o gymorth arnoch neu os ydych yn cael mwy o broblemau cerdded, gallai hyn olygu y gallwch chi, neu'r person anabl, gael mwy o arian.

Ysbyty Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)

Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, yn mynd i ysbyty neu'n gadael ysbyty sydd dan ofal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae hyn yn cael ei ystyried yn newid mewn amgylchiadau.

Cartrefi gofal

Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, yn mynd i gartref gofal neu'n gadael cartref gofal, mae hyn yn cael ei ystyried yn newid mewn amgylchiadau.

Mynd i fyw dramor neu i ymweld

Os ydych yn mynd i fyw dramor yn barhaol, ni allwch gael Lwfans Byw i'r Anabl fel arfer.

Os byddwch yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu i'r Swistir a'ch bod eisoes yn cael Lwfans Byw i'r Anabl, fe allwch barhau i'w gael dan rai amgylchiadau.

Os ydych yn ymweld â gwlad dramor dros dro, efallai y gallwch barhau i gael Lwfans Byw i'r Anabl:

  • os nad yw eich absenoldeb o Brydain Fawr yn para mwy na 26 wythnos (mae hyn yn cynnwys mynd ar wyliau)
  • os ydych yn mynd dramor er mwyn cael triniaeth feddygol am gyflwr a ddechreuodd cyn i chi adael Prydain Fawr

Byw ym Mhrydain Fawr

I gael y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid eich bod yn gyffredinol yn preswylio'n arferol ym Mhrydain Fawr, neu'n cael eich trin fel petaech yn byw yma, a rhaid i chi fodloni rhai amodau eraill o ran preswyliaeth a phresenoldeb.

Yn gyffredinol, mae'n ofynnol:

  • eich bod yn preswylio'n arferol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu'r Alban)
  • eich bod ym Mhrydain Fawr pan rydych yn hawlio
  • eich bod ym Mhrydain Fawr, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey am o leiaf 26 wythnos yn y 52 wythnos diwethaf (13 wythnos yw'r cyfnod i fabanod dan chwe mis oed ac nid yw'n berthnasol o gwbl i bobl sy'n cael eu talu dan reolau arbennig)
  • nad ydych yn gaeth i reoliadau mewnfudo

Nid yw rheoliadau mewnfudo'n eich rhwystro rhag cael y Lwfans Byw i'r Anabl os ydych naill ai:

  • yn aelod o deulu dinesydd o un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop
  • yn gweithio ym Mhrydain Fawr fel dinesydd gwlad â chytundeb trin yn gyfartal gyda'r Undeb Ewropeaidd - sef Twrci, Moroco, Algeria, Tunisia a San Marino
  • yn byw gydag un o'r gweithwyr hyn fel aelod o'u teulu
  • yn unigolyn sydd wedi cael caniatâd i ddod i'r DU neu i aros yn y DU gan fod rhywun wedi cytuno i fod yn gyfrifol am eich cynhaliaeth ac am eich costau llety

Gellir eich trin fel rhywun sy'n byw ym Mhrydain Fawr:

  • os ydych yn aelod o Luoedd Arfog EM sy'n gwasanaethu dramor neu'n aelod o'u teulu
  • os ydych yn forwr neu'n awyrennwr sifil sy'n gweithio dramor
  • os ydych wedi bod yn gweithio ar sector y Deyrnas Unedig o'r silff gyfandirol - ar rig olew, er enghraifft

Os ydych chi'n cael Lwfans Byw i'r Anabl (elfen ofal yn unig) ac yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, cewch barhau i'w gael dan rai amgylchiadau.

Os ydych chi eisoes yn byw mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, efallai y bydd modd i chi hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (elfen ofal yn unig) dan rai amgylchiadau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU