Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw Porth y Llywodraeth?

Gwasanaeth cofrestru canolog yn y DU yw Porth y Llywodraeth. Drwy gofrestru gyda'r Porth, gallwch dderbyn nifer o wasanaethau rhyngrwyd y Llywodraeth.

Mathau o wasanaeth

Mae gan y Porth dros 100 o wasanaethau o fwy na 50 o swyddfeydd y Llywodraeth. Os ydych chi ar-lein i hawlio Credyd Treth Plant, i dalu dirwy parcio neu i holi ynghylch eich hawl i bensiwn, mae'n debygol mai'r Porth fyddwch chi'n ei ddefnyddio. Weithiau, efallai na fyddwch hyd yn oed yn ymwybodol eich bod yn ei ddefnyddio - bydd gwahanol adrannau'n defnyddio'u brand eu hunain.

Mae tri phrif grŵp o wasanaeth ar-lein y gallwch gofrestru ar eu cyfer:

Gwasanaethau ar-lein i unigolion
Mae’r rhain yn cynnig gwasanaethau personol ar-lein megis:

  • Hunanasesu Ar-lein
  • Budd-dal Plant ar-lein
  • Rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ar-lein
  • Gwneud cais am drwydded yrru dros dro
  • Mae oddeutu 80 o wasanaethau ar-lein i unigolion.

Gwasanaethau ar-lein i sefydliadau
Mae'r rhain yn cynnig gwasanaethau busnes ar-lein megis:

  • Treth Gorfforaeth Ar-lein
  • TAW ar-lein
  • Talu Wrth Ennill ar-lein
  • Mae oddeutu 35 o wasanaethau ar-lein i fudiadau.

Gwasanaethau ar-lein i asiantau
Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi i asiantau, er enghraifft eich cyfrifydd, gyflwyno ffurflenni ar ran unigolion neu sefydliadau.

Sut mae'r broses gofrestru'n gweithio

Er mwyn cofrestru ar gyfer gwasanaeth ar-lein bydd angen i chi gofrestru fel unigolyn, fel sefydliad neu fel asiant yn gyntaf. Mae hyn yn golygu rhoi manylion personol sy'n galluogi i Borth y Llywodraeth wirio pwy ydych chi, a rhoi cyfrinair a ddewisir gennych chi.

Mae'r rhan fwyaf o unigolion yn cofrestru gan ddefnyddio Enw Defnyddiwr a chyfrinair. (Gallwch ddefnyddio 'tystysgrif ddigidol' hefyd. I gael gwybod mwy am y dull hwn, darllenwch yr adran ddiweddarach: Cofrestru gyda thystysgrif ddigidol.)

Fyddwch chi'n cofrestru ar wefan Porth y Llywodraeth bob tro?
Ddim bob tro. Weithiau, byddwch yn cofrestru o wefan y gwasanaeth ar-lein y dymunwch gofrestru ag ef, heb sylweddoli eich bod yn gwneud hynny. Mewn achosion eraill, bydd y wefan y dymunwch gofrestru ar gyfer ei gwasanaeth yn gofyn i chi gofrestru ar wefan Porth y Llywodraeth yn gyntaf, ac yn rhoi dolen. Pa wefan bynnag y byddwch yn cofrestru arni, bydd y wybodaeth a gewch yn ei hôl yn deillio o Borth y Llywodraeth.

Gwybodaeth a gewch ar ôl cofrestru
Cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru, fe welwch enw defnyddiwr ar eich sgrin. (Byddwch yn derbyn copi trwy'r post hefyd.) Byddwch yn defnyddio hwn gyda'ch dewis gyfrinair i gofrestru ar gyfer eich gwasanaeth cyntaf.

Wedi hynny, byddwch yn defnyddio eich Rhif Defnyddiwr a'ch cyfrinair i gofrestru ar gyfer unrhyw wasanaethau ar-lein eraill yn yr un maes (unigolion, mudiadau, asiantau). Ni fydd angen i chi gofrestru yn y maes hwnnw eto.

Galluogi gwasanaeth ar-lein am y tro cyntaf

Caiff rhai gwasanaethau ar-lein eu galluogi ar unwaith. Ar gyfer rhai eraill, dim ond ar ôl i Borth y Llywodraeth anfon 'PIN Cychwyn' (rhif adnabod personol) atoch trwy'r post y bydd modd i chi ddechrau defnyddio'r gwasanaeth.

Os bydd angen PIN Cychwyn ar y gwasanaeth y dymunwch ei ddefnyddio, byddwch yn derbyn e-bost gan Borth y Llywodraeth wrth gofrestru yn eich hysbysu y byddant yn anfon un atoch o fewn y saith niwrnod nesaf, ynghyd â chyfarwyddiadau am beth i'w wneud. Bydd angen PIN Cychwyn gwahanol arnoch ar gyfer pob gwasanaeth sy'n gofyn am PIN. Unwaith y byddwch wedi galluogi'r gwasanaeth, gallwch gael gwared â'r PIN gan na fydd ei angen arnoch eto. Cofiwch, bydd angen i chi alluogi'r gwasanaeth cyn i'r PIN ddod i ben.

Pam mae angen i chi aros am PIN Cychwyn?
Nod y PIN Cychwyn yw eich amddiffyn trwy sicrhau diogelwch llwyr gyda gwasanaethau ar-lein y llywodraeth. Gan yr anfonir y PIN at eich cyfeiriad cartref (sydd ar ffeiliau'r llywodraeth) gall y llywodraeth sicrhau mai dim ond chi fydd yn galluogi'r cyfrif.

Cofrestru gyda thystysgrif ddigidol

Bydd angen cofrestru gyda thystysgrif ddigidol ar gyfer rhai gwasanaethau ar-lein. Dogfennau electronig yw'r rhain a ddefnyddir i wirio pwy ydych chi ar Borth y Llywodraeth. Maent hefyd yn cynnwys meddalwedd sy'n galluogi i ddogfennau, ffeiliau electronig a negeseuon eraill gael eu llofnodi'n ddigidol.

I gael mwy o wybodaeth

I gael gwybod mwy am Borth y Llywodraeth, ac am ffyrdd gwahanol o gofrestru, dilynwch y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU