Pa mor debygol yw llifogydd yn eich ardal chi? Defnyddiwch Fap Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd i gael gwybod.
Ydych chi'n un o'r tua 5 miliwn o bobl yn y DU sy'n byw mewn ardal sydd â pherygl o lifogydd? Gallwch gael gwybod hyn drwy ddefnyddio Map Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd gan roi eich cod post yn y blwch a ddarperir. Cliciwch ar 'Mynd' a bydd map manwl o'ch ardal yn ymddangos.
Cewch wybod hefyd sut y gall hyn effeithio ar yswiriant eich tŷ, sut y gall llifogydd ddigwydd filltiroedd i ffwrdd oddi wrth afonydd neu'r môr, a sut i gael rhybuddion cynnar am lifogydd.