Mae gwefan y Swyddfa Gartref yn cynnig canllaw cynhwysfawr ar gyfer dod yn ddinesydd Prydeinig, yn ogystal â'r ffurflenni cais perthnasol.
Mae'r ffurflenni cais i gyd ar fformat PDF. Argraffwch y ffurflen a'i dychwelyd trwy'r post (ceir manylion ynghylch i ble y dylid anfon y ffurflen ar y dudalen y byddwch yn argraffu oddi arni).
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.