Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am dagfeydd traffig, damweiniau a gwaith ffordd ledled y DU, yn ogystal â rhagolygon o waith ffordd ac oedi yn y dyfodol.
Mae gwefan yr Asiantaeth Priffyrdd yn rhoi'r cyfle i chi ddewis rhwng 'amodau traffig presennol' a'r 'rhagolygydd traffig'. Yna, ar ôl i chi ddweud pa ardal yr hoffech wybod amdani, bydd y map ar y wefan yn dweud wrthych am unrhyw oedi, digwyddiadau, gwaith ffordd a mwy.