Gallwch ddefnyddio ffurflen V890 os ydych yn dymuno datgan bod eich cerbyd oddi ar y ffordd a'i fod heb drwydded (heb ei drethu). Cyfeirir at hyn yn swyddogol fel hysbysiad oddi ar y ffordd statudol (HOS).
Llwythwch y ffurflen oddi ar y ddolen isod a'i llenwi. Mae'r ffurflen yn cynnwys nodiadau cyfarwyddyd a gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys i ble y dylid anfon y ffurflen.
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.