Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael cymorth tuag at gostau angladd (ffurflen SF200)

Os ydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-dal incwm isel a bod angen help arnoch tuag at gostau angladd, mae'n bosib y gallwch gael Taliad Angladd.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Ewch i wefan y Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybodaeth am Daliadau Angladd, gan gynnwys pwy all wneud cais am un, tuag at pa gostau y gallai'r taliad fod o gymorth, a sut i wneud cais am un.

Gallwch wneud cais unrhyw adeg wedi'r dyddiad y bu'r person farw a hyd at dri mis wedi dyddiad yr angladd.

Gallwch lwytho'r ffurflen hawlio ar fformat PDF. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo

Ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Allweddumynediad llywodraeth y DU