Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn darparu enghreifftiau o ffug brofion theori ar-lein ar gyfer gyrwyr ceir, beiciau modur, bysiau a lorïau.
Cofrestrwch gyda gwefan prawf theori'r DSA a gwnewch un o'r pedwar ffug brawf (dau ar gyfer gyrwyr ceir, dau ar gyfer gyrwyr beiciau modur). Gallwch wneud unrhyw un o'r profion gymaint o weithiau ag y dymunwch.
Wrth dalu ffi gallwch weld yr holl gwestiynau a ellir eu gofyn i chi ar eich prawf, am 30 diwrnod (gallwch adnewyddu'r ffi hon i gael 30 diwrnod arall).
Gall gyrwyr bysiau a lorïau wneud dau brawf ymarfer drwy ddefnyddio'r ddolen isod, ond nid oes gwasanaeth ffi ar gael.
Cofiwch: nid yw sgorio yn y prawf hwn yn golygu y byddwch yn pasio'r gwir brawf theori o dan yr amodau arholi priodol.