Canfod prisiau a manylion eiddo lleol
Cewch wybod yma am fanylion eiddo fel cynlluniau teitl neu brisiau cyfartalog tai mewn ardal gan y Gofrestrfa Tir.
Golwg Gyffredinol
Gall y Gofrestrfa Tir roi manylion i chi am eiddo yng Nghymru a Lloegr a gofrestrwyd ar ôl Ebrill 2000.
Gallwch:
- gael gwybod prisiau cyfartalog tai mewn ardal
- llwytho'r gofrestr teitl, y cynllun teitl a/neu ddogfen a gyfeiriwyd ati yng nghofrestr eiddo yr ydych yn berchen arno
- cael gwybod y pris a dalwyd (os cafodd ei gofrestru ar ôl Ebrill 2000)
- gweld a oes unrhyw gyfyngiadau hawliau tramwy neu gyfyngiadau tir ar draws y tir