Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am Gymhorthdal Incwm (ffurflenni A1 a B16)

Budd-dal ar gyfer pobl o dan 60 sydd ar incwm isel a heb fod â llawer o gynilion yw'r Cymhorthdal Incwm. Gallwch wneud cais am y budd-dal ar-lein (Lloegr, Cymru, Yr Alban yn unig).

Golwg Gyffredinol

Mae gwefan y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnwys gwybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gan gynnwys faint allwch chi ei gael, sut i'w hawlio a beth i'w wneud os bydd newid yn eich amgylchiadau.

Gallwch:

  • lwytho ffurflen hawlio ar fformat PDF o wefan y Ganolfan Byd Gwaith (dolen isod)
  • gysylltu â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol i gael ffurflen

Hawliwch yn syth; os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli budd-dal.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Llwythwch y ffurflen o'r ddolen isod, a fydd yn eich arwain at wefan y Ganolfan Byd Gwaith, a llenwch hi. I fynd at y ffurflen bydd angen copi o Adobe Reader arnoch. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo

Ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Allweddumynediad llywodraeth y DU