Bydd pobl o bob cefndir ac o bob rhan o'r gymdeithas yn cael anrhydeddau am wneud gwahaniaeth i'w cymunedau.
Gall unrhyw un gynnig enwebiad i dderbyn anrhydedd. Fodd bynnag, dim ond nifer penodol o anrhydeddau a ganiateir, ac ni fydd pob enwebiad yn llwyddiannus. Nid oes terfynau amser penodol ar gyfer gwneud enwebiad, a chaiff y rhan fwyaf o geisiadau eu hystyried am 12 i 18 mis.
I enwebu rhywun, defnyddiwch y ddolen isod. Mae'r dudalen yn cynnwys dolenni at ffurflenni enwebu PDF, a gwybodaeth am lle i anfon ffurflenni wedi'u llenwi.
Er mwyn agor ffeiliau PDF bydd angen copi o Adobe Reader arnoch. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.