Budd-dal a delir i bobl sy'n rhoi gofal anffurfiol i bobl ag anabledd difrifol yw'r Lwfans Gofalwr.
Cewch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am yr un perthynas, ffrind neu gymydog. Dylent fod yn derbyn, er enghraifft, y Lwfans Gweini neu'r Lwfans Byw i'r Anabl (ar y gyfradd ganol neu uchaf ar gyfer gofal personol).
Os ydych yn hawlio am y tro cyntaf, i gael gwybod mwy am Lwfans Gofalwr ewch i adran 'Gofalu am rywun' Directgov. Ceir gwybodaeth ynghylch a ydych yn gymwys ai peidio, faint y gallwch ei dderbyn a beth i'w wneud os yw'ch amgylchiadau'n newid.
Gallwch un ai hawlio ar-lein neu lwytho ffurflen hawlio er mwyn ei phostio.
I wneud cais ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Bydd y dudalen gyntaf yn gwneud yn siŵr bod y feddalwedd iawn gennych ac yn dangos beth i'w wneud os nad ydy'r feddalwedd gennych.
Gallwch lwytho'r ffurflen hawlio ar fformat PDF.