Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Llifogydd: y newyddion diweddaraf a chyngor ymarferol

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd sydd wedi eu heffeithio o wefannau cynghorau lleol a chynghorau dinas. Caiff gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd ei diweddaru bob 15 munud, gan roi gwybodaeth gyfredol ar rybuddion llifogydd ledled Cymru a Lloegr.

Camau syml i warchod eich hun rhag llifogydd

Dyma rai camau syml y gallwch eu cymryd cyn llifogydd:

  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lle mae eich switsh diffodd nwy, trydan a phrif gyflenwad dŵr o flaen llaw
  • storiwch eitemau trydanol mor uchel â phosib
  • meddyliwch am gadw eitemau personol â gwerth sentimental i fyny'r grisiau drwy'r amser, rhag ofn i chi anghofio'u symud adeg llifogydd
  • cadwch ddogfennau personol pwysig mewn bag sydd wedi'i selio, ac mewn man sy'n ddiogel rhag dŵr llif
  • symudwch eich car i dir uwch i osgoi difrod

Ceir mwy o wybodaeth am amddiffyn eich hun a'ch eiddo rhag llifogydd, gan gynnwys paratoi amddiffynfeydd llifogydd, yn y ddolen isod.

Cyngor i bobl y mae llifogydd yn effeithio arnynt

Mae gwefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (dolen isod) yn cynnwys cyngor ymarferol am y canlynol:

  • diogelu yn erbyn heintiau
  • sut i lanhau
  • fflysio toiledau
  • paratoi a storio bwyd
  • dŵr yfed, gan gynnwys i fabanod
  • peryglon cemegol
  • generaduron i'w defnyddio mewn argyfyngau

Awgrymiadau ar gyfer ymdopi â phrinder dŵr

  • dilynwch gyngor eich cwmni dŵr lleol am ddiogelwch dŵr tap
  • defnyddiwch ddŵr potel neu ddŵr o dancer wedi'i ferwi ar gyfer yfed, brwsio dannedd, golchi bwyd, coginio a gwneud rhew
  • ar gyfer pobl sydd â babanod a phlant bach: os ydych chi'n defnyddio llaeth fformiwla, defnyddiwch ddŵr tancer neu ddŵr potel ar ôl ei ferwi a'i oeri; fel arall, defnyddiwch laeth fformiwla sydd wedi'i wneud yn barod; os nad oes gennych bŵer, defnyddiwch ddŵr potel heb ei ferwi, ond defnyddiwch y fformiwla ar unwaith
  • fflysiwch y toiled ar gyfer ymgarthion yn unig - nid oes angen fflysio ar ôl gwneud dŵr
  • gellir defnyddio dŵr a ddefnyddiwyd eisoes, er enghraifft, i ymolchi, cael baddon, neu goginio, i fflysio toiledau - gallwch hefyd ddefnyddio dŵr glaw (er enghraifft, o gasgenni dŵr glaw) i fflysio toiledau
  • nid yw dŵr glaw byth yn addas i'w yfed, oherwydd gallai fod wedi'i lygru
  • os yw'r cwmni dŵr wedi dweud nad yw'r dŵr a gyflenwir i gartrefi'n ddiogel i'w yfed, ni chynghorir ei ddefnyddio i roi bath i fabanod – mae'n ddiogel defnyddio dŵr tancer neu ddŵr potel yn ei le
  • mae cadachau ymolchi babanod yn ddewis gwahanol ymarferol i fath ar gyfer babanod, plant bach ac oedolion
  • dylech osgoi dŵr llifogydd ac ni ddylai plant chwarae ynddo; os oes rhaid i chi fynd i ddŵr llifogydd, gwisgwch ddillad gwarchod addas megis esgidiau glaw

Cael y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf

I weld y rhybuddion llifogydd diweddaraf mewn ardal benodol, gallwch naill ai ddewis o'r rhestr o ranbarthau sydd ar gael neu ddefnyddio gwasanaeth chwilio'r ddolen Floodline isod.

Caiff rhybuddion llifogydd eu rhoi mewn categorïau, naill ai Llifolwg, Rhybudd Llifogydd, Rhybudd Llifogydd Difrifol, neu Rhybudd Ar Ben. Eglurir y rhain ar y wefan.

Hefyd, cofiwch y bydd eich gorsaf radio BBC leol yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi am yr amodau tywydd ac am unrhyw gamau y mae angen i chi eu cymryd lle'r ydych yn byw. Mae rhai ardaloedd wedi trefnu cronfeydd apêl llifogydd a gweithgareddau gwirfoddoli, ac fe gewch wybodaeth am y rhain yma hefyd.

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo

Ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.

Allweddumynediad llywodraeth y DU