Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad a wnaed gan y Ganolfan Byd Gwaith neu'r Gwasanaeth Pensiwn ynghylch budd-dal nawdd cymdeithasol yr ydych wedi'i hawlio neu yn ei gael, yna gallwch ofyn fel arfer i dribiwnlys annibynnol benderfynu a yw'r penderfyniad yn un cywir ai peidio.
Mae'r daflen GL24, 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir', yn rhoi gwybodaeth am beth i'w wneud os ydych wedi gwneud cais am fudd-dal nawdd cymdeithasol, ond yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir. Mae'r daflen yn egluro beth y gallwch ei wneud ar gyfer mathau gwahanol o benderfyniadau ar fudd-daliadau.
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y daflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.