Gallwch chwilio am eich band treth gyngor trwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae'r VOA yn gyfrifol am gynnal y rhestrau prisio trethi busnes a threth cyngor ar gyfer Cymru a Lloegr.
Gallwch weld eich band trwy deipio eich cod post neu'ch awdurdod bilio, os ydych yn ei wybod.
Wrth i chi deipio eich awdurdod bilio, gofynnir i chi roi mwy o wybodaeth - llinell gyntaf eich cyfeiriad cartref yw'r ffordd gyflymaf i adnabod eich eiddo. Fel arall, wrth i chi deipio eich cod post llawn, bydd enw neu rif eich tŷ yn galluogi i'ch eiddo gael ei adnabod yn gyflym.
Bydd y dudalen ganlyniadau'n dangos cyfeirnod awdurdod bilio, eich cyfeiriad llawn, a'r band y mae eich eiddo'n dod oddi tano. Bydd y dudalen hefyd yn cadarnhau a yw'n gyfeiriad cyfansawdd, h.y. lle mai rhan o'r eiddo'n unig a ddefnyddir at ddibenion domestig.
Am fwy o wybodaeth am fand treth gyngor cliciwch ar y ddolen 'Treth Cyngor a Band Treth Gyngor' isod.