Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dedfrydau cymunedol

Mae dedfryd gymunedol yn gosb anodd sy'n cynnwys amryw o wahanol ofynion, a'r rheini'n canolbwyntio ar helpu i ailsefydlu troseddwyr a'u hatal rhag troseddu eto. Maent yn hyblyg felly gellir cynllunio pob dedfryd gyda golwg ar droseddwr penodol ac ar y rhesymau dros ei ymddygiad troseddol.

Diben dedfrydau cymunedol

Mae gan ddedfrydau cymunedol dair swyddogaeth bwysig:

  • cosbi troseddwyr am eu troseddau drwy roi gwaith caled iddynt a chyrffyw llym sy'n golygu llai o amser rhydd
  • rhoi budd i'r gymdeithas drwy wneud i droseddwyr weithio'n galed yn y gymuned, a hynny'n ddi-dâl, er mwyn 'gwneud iawn' am y niwed y maent wedi'i achosi
  • maent yn cyfrannu at atal troseddwyr rhag ail-droseddu drwy ganfod pam mae unigolyn yn troseddu a drwy ddarparu rhaglenni a thriniaethau i atal hynny rhag digwydd eto

Gall dedfrydau cymunedol gosbi ac ailsefydlu troseddwyr gan fod ganddynt 12 o ofynion posib. Bydd y barnwr neu'r ynad yn dewis cyfuniad o ofynion ar gyfer pob troseddwr a fydd yn eu cosbi ac yn rhoi cyfle iddynt newid.

12 o ofynion dedfryd gymunedol

Bydd y barnwr neu'r ynadon yn ystyried beth mae'r troseddwr wedi'i wneud, pam ei fod wedi gwneud hynny a pha mor debygol ydyw o droseddu eto. Yna, byddant yn penderfynu faint o ofynion a gaiff y troseddwr a pha fath.

Dyma'r 12 o ofynion:

  • Gwneud Iawn â'r Gymuned - unrhyw beth rhwng 40 a 300 awr o waith di-dâl, er budd y gymuned
  • gweithgaredd gorfodol - megis mynychu canolfan gyffuriau, neu gwblhau cwrs addysg neu sgiliau sylfaenol
  • rhaglen i fynd i'r afael ag ymddygiad penodol - megis troseddu, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, trais domestig neu yfed a gyrru
  • gwahardd gweithgaredd - gwahardd gweithgaredd megis mynd i'r dafarn neu fynd i gêm bêl-droed
  • cyrffyw - wedi'i fonitro gyda thag electronig
  • gwahardd - gwahardd rhag mynd i le penodol am hyd at ddwy flynedd
  • preswylio - gorfod byw mewn lle penodol, megis mewn hostel brawf neu mewn cyfeiriad preifat
  • triniaeth iechyd meddwl
  • ailsefydlu ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau
  • triniaeth mewn perthynas ag alcohol
  • goruchwyliaeth - mynychu apwyntiadau rheolaidd gyda swyddog prawf i weithio ar newid agweddau ac ymddygiad
  • mynd i Ganolfan Ymbresenoli - lle gall pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed roi sylw i'w hymddygiad troseddol

Beth sy'n digwydd pan fydd troseddwyr yn torri'r rheolau

Os bydd troseddwr yn torri rheolau ei orchymyn cymunedol, bydd yn cael ei anfon yn ôl i'r llys ac yn cael cosb fwy. Mewn rhai achosion, efallai y bydd troseddwr yn cael ei ail-ddedfrydu ac yn cael ei anfon i'r carchar.

Allweddumynediad llywodraeth y DU