Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gofalwr - sut i hawlio

Mae sawl ffordd o wneud cais am Lwfans Gofalwr: fe allwch chi wneud cais ar-lein, gallwch ofyn am ffurflen gais drwy'r post neu fe allwch chi lwytho ffurflen oddi ar y dudalen hon.

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer preswylwyr Lloegr, yr Alban a Chymru. Os ydych chi’n bwy yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan nidirect am fanylion ynghylch sut i hawlio Lwfans Gofalwr yng Ngogledd Iwerddon os gwelwch yn dda.

Hawlio ar-lein

Gallwch hawlio Lwfans Gofalwr ar-lein os ydych yn byw yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn unig.

I hawlio ar-lein, defnyddiwch yr e-wasanaeth Lwfans Gofalwr a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau ffurflen electronig i hawlio Lwfans Gofalwr.

Cysylltu â'r Uned Lwfans Gofalwr

Gall yr Uned Lwfans Gofalwr anfon ffurflen hawlio atoch. Rhowch wybod iddynt os oes angen ffurflen arnoch yn Gymraeg, mewn Braille, mewn print bras neu ar dâp sain.

Eu cyfeiriad yw Carer's Allowance Unit, Palatine House, Lancaster Road, Preston, PR1 1HB

Rhif ffôn: 01253 856 123

Ffôn testun: 01772 562 202

Gallwch gysylltu â’r rhifau hyn rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf holwch am y gwasanaeth cyfieithu.

Ffacs: 01772 899 354

E-bost: cau.customer-services@dwp.gsi.gov.uk

Gofyn i'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau

Gallwch gysylltu â'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau i gael ffurflen hawlio a chyngor am sut i'w llenwi.

Rhif ffôn: 0800 88 22 00

Ffôn testun: 0800 24 33 55

Gallwch gysylltu â'r rhifau hyn rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1 pm ar ddydd Sadwrn.

Gofyn am ffurflen mewn swyddfa leol

Gallwch gael ffurflen hawlio wrth unrhyw Ganolfan Gwaith neu ganolfan pensiwn.

Llwytho'r ffurflen hawlio

Gallwch lwytho nodiadau cymorth a ffurflen hawlio i'w hargraffu a'i llenwi oddi ar y we.

Os byddwch yn llwytho'r ffurflen oddi ar y we, dylech ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted â phosibl gan y bydd dyddiad derbyn eich ffurflen yn effeithio ar y dyddiad pan fyddwch yn dechrau derbyn y Lwfans Gofalwr.

Os ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth, beth bynnag y swm, gallwch wneud hawliad am Lwfans Gofalwr gan ddefnyddio'r ffurflen hawlio fer. Mae'n cynnwys nodiadau cymorth.

Os ydych eisiau hawlio arian ychwanegol ar gyfer oedolyn dibynnol, dylech hefyd lwytho'r ffurflen hawlio 'Lwfans Gofalwr - arian ychwanegol ar gyfer oedolyn dibynnol', ei hargraffu a'i llenwi.

Pryd i wneud cais am Lwfans Gofalwr

Hawliwch nawr os ydych yn gofalu am rywun sydd naill ai'n derbyn y canlynol neu sydd wedi cael yr hawl i'w derbyn yn ddiweddar:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfradd ganol neu uchaf y gydran gofal
  • Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd uchaf arferol neu uwch yn ogystal â Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) neu uwch yn ogystal â Phensiwn Anabledd Rhyfel

Peidiwch ag oedi neu gallech golli budd-dal.

Hawliwch yn nes ymlaen os ydych yn gofalu am rywun nad yw wedi hawlio un o'r budd-daliadau a enwir uchod eto, nes sydd wedi hawlio ond yn aros am y penderfyniad.

Dylai'r person y byddwch yn gofalu amdano ystyried gwneud cais am un o'r budd-daliadau hyn yn syth os nad yw wedi hawlio'n barod. Os cânt un o'r budd-daliadau, dylech chithau hawlio Lwfans Gofalwr yn syth.

Gwneud cais am fudd-daliadau a hawliadau eraill yr un pryd

Os ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr, mae’n bosib y bydd gennych hawl i:

  • Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm
  • Gymhorthdal Incwm
  • Gredyd Pensiwn
  • Fudd-dal Tai
  • Fudd-dal Treth Cyngor

Additional links

Taflen y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr

Llwytho taflen wybodaeth i lawr am y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr ar ffurf PDF

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU