Gallech fod yn gymwys i gael y Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sy'n wael neu'n anabl.
Mae gofyn eich bod yn gofalu am rywun sy'n cael un o'r budd-daliadau canlynol:
Os oes rhywun arall yn gofalu am yr un person, dim ond un ohonoch gaiff y Lwfans Gofalwr.
Os ydych chi'n gofalu am fwy nag un person anabl, allwch chi ddim adio'r oriau yr ydych yn ei wneud.
Gall mwy nag un person sy'n byw yn yr un cartref hawlio Lwfans Gofalwr, megis cwpl yn gofalu am ei gilydd.
Nid effeithir ar y Lwfans Gofalwr gan unrhyw gynilion sydd gennych.
Gofalu ar benwythnosau'n unig
Mae'r 'wythnos ofalu' yn mynd o ddydd Sul i ddydd Sadwrn. Felly, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i Lwfans Gofalwr os ydych yn darparu o leiaf 35 awr o ofal ond dim ond ar benwythnosau.
Os ydych wedi dod o dramor neu'n byw dramor
I fod yn gymwys, rhaid i'r canlynol fod yn berthnasol:
Gellir ystyried bod rhai pobl yn bresennol yn y DU. Er enghraifft, os ydych yn aelod o'r Lluoedd Arfog, neu'n byw gydag aelod o'r Lluoedd Arfog, ac wedi'ch lleoli dramor, ystyrir eich bod yn byw yn y DU.
Os ydych chi’n gadael y DU i fyw rhywle arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir, mae’n bosib y bydd eich Lwfans Gofalwr yn parhau i gael ei dalu i chi o dan amgylchiadau penodol.
Dan rai amgylchiadau penodol, gellir talu Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gadael Prydain Fawr i fynd i fyw mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir.
Addysg
Chewch chi ddim Lwfans Gofalwr:
Mae addysg amser llawn yn golygu 21 awr neu fwy yr wythnos o astudio a wneir mewn ysgol, coleg, prifysgol neu sefydliad addysgol tebyg. Mae hyn yn cynnwys amser a dreulir ar ymarferion, arbrofion, prosiectau neu arholiadau cysylltiedig.
Gwaith ac enillion
Chewch chi ddim Lwfans Gofalwr os ydych chi'n ennill mwy na £95 yr wythnos ar ôl i arian gael ei ddidynnu ar gyfer eich treuliau.
Mae'r treuliau a ganiateir ar gyfer pethau megis:
Ar ôl darparu ar gyfer y rhain, fe gewch hyd at hanner gweddill yr arian yr ydych yn ei ennill i helpu gyda chost talu i rywun arall (ond nid perthynas agos) i ofalu am blentyn neu blant, neu'r person yr ydych yn gofalu amdano, pan fyddwch chi yn y gwaith.
Preswylio neu aros yn y DU
Allwch chi ddim cael Lwfans Gofalwr os yw'r Swyddfa Gartref wedi rhoi cyfyngiad ar eich hawl i breswylio neu aros yn y Deyrnas Unedig.