Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhaglen Cymorth Cynnar - cefnogaeth i blant ifanc anabl

Os ydych chi'n rhiant i blentyn ifanc anabl efallai y cewch gymorth gan y Rhaglen Cymorth Cynnar. Mae'r rhaglen hon yn fan cychwyn i ganfod mwy am gyflwr eich plentyn.

Gwybodaeth am anabledd a gwasanaethau i bobl anabl gan y Rhaglen Cymorth Cynnar

Bydd y rhaglen:

  • yn dwyn ynghyd y gwahanol wasanaethau sydd ar gael ar eich cyfer chi a'ch plentyn
  • yn canolbwyntio ar blant dan dair oed ond bydd rhai cynghorau yn ei defnyddio ar gyfer plant hyd at bump oed
  • yn cael ei rheoli gan eich cyngor, a cheir mynediad ati drwy'r gwasanaethau cymdeithasol


Mae Cymorth Cynnar wedi datblygu amrywiaeth o daflenni sy'n canolbwyntio ar anableddau penodol ac yn cynnwys gwybodaeth amdanynt. Bwriad y rhain yw bod yn 'gam cyntaf' yn y broses o roi gwybod i rieni am yr anabledd a throsglwyddo gwybodaeth a chyngor gan rieni eraill. Ceir llyfrynnau sy'n edrych ar anableddau penodol gan gynnwys:

  • nam ar y synhwyrau
  • awtistiaeth
  • cyflyrau prin
  • anawsterau lleferydd ac iaith

Ceir llyfryn sy'n ymdrin â'r sefyllfa lle nad oes diagnosis wedi cael ei wneud eto. Gall hyn fod yn angenrheidiol oherwydd yn aml bydd angen gwasanaethau cefnogi ar eich plentyn cyn diagnosis.

Pecyn Teulu Cymorth Cynnar

Mae Pecyn Teulu Cymorth Cynnar ar gael hefyd sy'n rhoi gwybod i rieni am wasanaethau a all eu cefnogi. Bydd hefyd yn helpu teuluoedd i wybod beth i'w ddisgwyl o safbwynt darpariaeth gwasanaeth da ac am beth y dylid gofyn.

Mae'r pecyn yn cynnwys ffolder gwybodaeth gefndir ac ynddi lyfrynnau sy'n egluro'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a beth ddylent ei ddarparu i chi, yn ogystal â gwybodaeth am ofal plant, cymorth ariannol (er enghraifft, Lwfans Byw i'r Anabl), gwybodaeth am addysg a mwy.

Y ffeil deulu

Fel rhan o'r pecyn Cymorth Cynnar ceir ffeil ar gyfer y teulu. Mae hon yn cynnwys yr adrannau canlynol:

Am eich plentyn
Mae adran o'r enw 'cyflwyno ein hunain' ar gyfer ysgrifennu gwybodaeth am bethau megis anabledd eich plentyn, ei hanes meddygol, beth mae'n ei hoffi a beth nad yw'n ei hoffi, pa iaith a ddefnyddir yn y cartref a mwy. Roedd llawer o rieni a gofalwyr yn teimlo eu bod yn ailadrodd eu hunain felly mae'r rhan hon o'r pecyn yn anelu at gwtogi'r amser y byddwch yn ei dreulio yn dweud yr un pethau wrth wahanol bobl.

Gweithwyr proffesiynol a fydd yn gweithio gyda chi
Gall unrhyw weithiwr proffesiynol a fydd yn dod i weithio gyda'ch teulu, er enghraifft nyrs neu therapydd galwedigaethol, ysgrifennu eu manylion cyswllt yn yr adran hon. Mae'n golygu bod yr holl enwau a rhifau perthnasol yn cael eu cadw mewn un lle rhag ofn y bydd eu hangen arnoch.

Cofnod o gysylltiadau proffesiynol
Yn y fan hon gallwch restru'r holl gyfarfodydd y byddwch yn eu cael gyda phobl broffesiynol ac mae lle i ysgrifennu unrhyw gamau sy'n dilyn. Teimla rhai gofalwyr bod hyn yn ddefnyddiol i ddweud wrth aelod arall o'r teulu nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod beth ddigwyddodd. Yn aml iawn bydd llawer o fanylion i'w cofio a dyma ffordd o gofnodi'r pethau y siaradwyd amdanynt.

Cynllun Gwasanaeth Teulu
Yn y fan hon y byddwch chi a'r bobl broffesiynol a fydd yn gweithio gyda chi yn ysgrifennu am y gwasanaethau a'r gefnogaeth a fyddai o gymorth i'ch plentyn yn eich barn chi, ac yn llunio cynllun i nodi pwy fydd yn darparu cymorth a phryd y byddant yn gwneud hynny.

Beth all eich plentyn ei wneud yn awr
Drwy ysgrifennu beth y gall eich plentyn ei gyflawni ar hyn o bryd fe welwch faint y bydd wedi datblygu dros gyfnod o amser.

Sefydliadau a chysylltiadau lleol
Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol siarad â rhieni a gofalwyr eraill sydd yn yr un sefyllfa â'ch teulu chi. Dyma'r lle i wneud rhestr o'r sefydliadau lleol a allai fod o ddiddordeb i chi. Mae'n debyg y bydd eich gweithiwr allweddol (rhywun sy'n cydlynu gofal eich plentyn) yn gallu dweud wrthych pa sefydliadau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Cwestiynau a lluniau
Mae llefydd i chi roi ffotograffau ac i ysgrifennu rhestrau o gwestiynau yr hoffech eu gofyn. Bydd brodyr a chwiorydd yn aml yn mwynhau gludo pethau a thynnu lluniau ar y tudalennau priodol.

Am ragor o wybodaeth am y pecynnau hyn siaradwch â'ch gweithiwr allweddol neu'ch ymwelydd iechyd. Mae'n bosibl y bydd y pecynnau a'r llyfrynnau ar gael yn eich canolfan blant leol. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Cymorth Cynnar ar wefan Every Child Matters.

Addasiadau i'r cartref ac offer i blant anabl

Yma, cewch wybod mwy am y mathau o gymorth sydd ar gael i helpu eich plentyn i ddod yn fwy annibynnol, gan gynnwys grantiau, addasiadau ac offer. Mae gan y Sefydliad Byw'n Anabl amryw o daflenni gwybodaeth sy'n rhoi manylion am offer symudedd a chyfarpar ar gyfer chwarae a byw o ddydd i ddydd ar gyfer plant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU