Efallai y bydd nifer o bobl yn gysylltiedig â gofal eich plentyn anabl. Mae'n bosib y byddwch yn gyfarwydd ag ambell un - fel y meddyg, er enghraifft - ond efallai y bydd eraill yn newydd i chi.
Mae'n bosib y gallai eich meddyg lleol roi gwybodaeth i chi am gyflwr eich plentyn ac am y driniaeth sydd ar gael. Os na fedr wneud hyn, bydd modd i'r meddyg gyfeirio'ch plentyn at arbenigwr.
Gall eich meddyg hefyd gyfeirio eich plentyn at unrhyw brofion neu driniaeth ysbyty a allai fod yn angenrheidiol a rhoi gwybod i chi am unrhyw glinigau neu sefydliadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Mae gan rai teuluoedd weithiwr allweddol. Bydd gweithiwr allweddol yn eich gweld yn rheolaidd ac yn sicrhau y byddwch yn cael yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen. Byddant hefyd yn sicrhau y bydd gwasanaethau o'r holl adrannau gwahanol, gan gynnwys iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, yn cael eu cydlynu'n dda.
Gall gweithwyr allweddol weithredu fel cyswllt canolog rhwng pobl broffesiynol a fydd yn gweithio gyda'ch teulu a gallant rannu gwybodaeth lle bydd angen.
Meddygon sy'n arbenigo mewn gweithio â phlant yw pediatryddon. Efallai bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at bediatrydd os byddwch yn bryderus ynghylch datblygiad eich plentyn.
Mae'n bosib y bydd pediatryddon yn gallu rhoi diagnosis i chi am gyflwr eich plentyn, ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych a'ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol.
Mae therapyddion galwedigaethol pediatrig yn arbenigo mewn gweithio â phlant. Byddant yn cynnal asesiadau er mwyn gweld a fyddai'ch plentyn yn elwa o ddefnyddio cyfarpar arbenigol megis cwpanau wedi'u haddasu, coetsys neu gadeiriau ac yn darparu cyngor am godi a thrin eich plentyn mewn modd diogel.
Gall therapyddion galwedigaethol pediatrig hefyd helpu plant i wella sgiliau fel:
Bydd gweithiwr cefnogi cyfathrebu yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon er mwyn darparu iaith arwyddion ar gyfer plant ifanc byddar mewn meithrinfeydd neu ysgolion.
Bydd Portage yn ymweld â chartrefi i ddarparu addysg i blant dan oed ysgol sydd ag anghenion addysgol arbennig. Fe'i darperir fel arfer gan awdurdodau addysg lleol. Nod Portage yw cefnogi datblygiad plant ifanc yn y modd y maent yn chwarae, yn cyfathrebu ac yn eu perthynas ag eraill.
Bydd Portage hefyd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd drwy roi i rieni y cymorth ymarferol angenrheidiol er mwyn bod yn rhan o addysg eu plentyn a chynorthwyo â dysgu a gweithgareddau dydd i ddydd eu plentyn.
Gall gweithiwr Portage fod yn athro, therapydd lleferydd, nyrs feithrin, rhiant neu'n wirfoddolwr gyda phrofiad perthnasol
Aelod o staff mewn meithrinfa, grwp chwarae plant neu ysgol fydd y cydlynydd anghenion addysgol arbennig, a bydd yn cydlynu gweithgareddau a gwasanaethau anghenion addysgol arbennig o fewn yr ysgol honno.
Mewn ysgol fach efallai mai'r pennaeth neu'r dirprwy fydd yn ysgwyddo'r rôl hon. Mewn ysgol fwy efallai y bydd tîm cydlynu anghenion addysgol arbennig.
Gelwir athro cymwysedig sydd hefyd wedi hyfforddi i fod yn seicolegydd yn seicolegydd addysg. Gallant asesu datblygiad eich plentyn, darparu cymorth a chyngor a gallant eich cynorthwyo i gynllunio gweithgareddau a gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.