Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Awgrymiadau defnyddiol i ofalwyr

Daw gofalwyr o bob math o gefndiroedd gwahanol a gallant fod o unrhyw oed. Gall gofalu roi boddhad, ond gall fod yn anodd hefyd. Dyma ddeg peth pwysig y dylai pob gofalwr ei wybod i’w helpu gyda’u rôl gofalwr ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddi.

Diffiniad o ‘ofalwr’

Gofalwr yw rhywun sy’n gofalu ac yn helpu ffrind, perthynas neu gymydog na fyddai’n gallu ymdopi heb eu cymorth. Gallai hyn fod oherwydd oedran, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd.

Nid yw’n golygu gweithiwr gofal proffesiynol neu gynorthwyydd personol sy'n cael eu talu am eu gwaith.

Os ydych chi'n ofalwr, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Bydd tri o bob pum person yn y DU yn ofalwr rywbryd yn ystod eu bywydau.

Cymorth ariannol ar gyfer gofalwyr

Os ydych chi’n gofalu am rywun, mae amrywiaeth o fudd-daliadau ariannol ar gael i chi ac ar gyfer y sawl rydych yn gofalu amdano. Peidiwch â bod ofn gofyn am help a hawlio’r hyn y mae gennych hawl iddo.

Lwfans Gofalwr

Budd-dal trethadwy yw Lwfans Gofalwr ar gyfer pobl na allant weithio neu sydd ag incwm isel oherwydd eu bod yn gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl. Gallech gael Lwfans Gofalwr os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn eich rôl fel gofalwr.

Asesiadau gofalwr

Os ydych yn darparu gofal ar gyfer rhywun sy'n 18 oed neu'n hŷn, dylai'ch cyngor lleol wneud asesiad i ganfod a oes gennych hawl i unrhyw wasanaethau a allai wneud gofalu yn haws i chi.

Eich anghenion chi fel gofalwr fydd dan sylw yn yr asesiad hwn. Gall enghreifftiau o gymorth gynnwys help gyda gwaith tŷ neu newidiadau i'r cartref.

Cymryd seibiant

Fel gofalwr, mae’n bwysig eich bod yn neilltuo amser i chi'ch hun. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn cefnu ar y sawl rydych yn gofalu amdano. Gall cymryd amser i ffwrdd o ofalu helpu eich lles eich hun, ac mae hynny o fudd i chi ac i'r sawl rydych yn gofalu amdano.

Mae rhai cynghorau lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau er mwyn rhoi seibiant i chi. Siaradwch â'ch cyngor ynghylch pa wasanaethau a all fod ar gael.

Opsiynau cyflogaeth

Mae gwaith cyflogedig yn rhoi incwm i chi a hefyd yn gallu rhoi hwb i’ch hunan-barch, gan roi cyfle i chi gwrdd â phobl nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â’ch rôl fel gofalwr.

Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig help i ofalwyr. Er enghraifft, bydd er lles pennaf eich cyflogwr i ystyried oriau gweithio hyblyg i’ch helpu i gyfuno gwaith a gofalu.

Gofalu a’ch Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd yr ydych wedi talu neu wedi’ch credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd eich bod yn gofalu am rywun, gallwch ddal gael eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os ydych yn gymwys ar gyfer Lwfans Gofalwr, cewch eich credydu yn awtomatig.

Gwasanaethau iechyd

Gall gofalu am rywun fod yn dreth gorfforol ac emosiynol. Siaradwch â’ch meddyg teulu ynghylch unrhyw bryderon sydd gennych am eich iechyd eich hun. Gall eich meddyg eich cynghori ar gadw'n iach, gan gynnwys bwyta'n dda, gwneud ymarfer corff a chael digon o gwsg.

Dylai’ch meddyg hefyd allu rhoi gwybodaeth i chi ynghylch cwnsela, gwasanaethau cymdeithasol a mudiadau ar gyfer gofalwyr.

Cymorth ariannol i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Ceir ystod eang o gymorth ariannol sy'n gysylltiedig ag anabledd, gan gynnwys budd-daliadau, credydau treth, taliadau, grantiau a chonsesiynau.

Os yw’r sawl yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer budd-dal ond nad ydynt yn gallu gwneud cais amdano eu hunain, gallwch chi hawlio ar eu rhan.

Ble i fynd i gael cymorth?

Eich cyngor lleol yw’r lle cyntaf i holi am wybodaeth ynghylch gofalu am rywun. Gallwch gael cyngor ar bethau ymarferol, fel gwasanaethau y mae’r cyngor yn eu darparu.

Ceir hefyd fudiadau i helpu gofalwyr, gan gynnwys elusennau a grwpiau lleol. Gall gofalwyr eraill fod yn ffynhonnell dda o gefnogaeth. Mae gan rai grwpiau gofalwyr fforymau ar-lein, felly gallwch gadw mewn cysylltiad â gofalwyr eraill heb orfod gadael y tŷ.

Allweddumynediad llywodraeth y DU